Coleg Caerdydd a’r Fro yn y ras am ddwy Wobr IMI fawreddog

17 Ion 2022

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy Wobr fawreddog gan Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI).

Mae’r dysgwr Joel Windsor wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Myfyriwr y Flwyddyn. Y llynedd bu Joel yn cystadlu yn y gystadleuaeth Atgyweirio Corff Cerbydau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU, gan ennill y fedal arian yn y ddwy.

Mae CCAF ei hun wedi cyrraedd y rhestr fer hefyd, yn y Wobr Cyfraniad at Waith yr IMI. Fis Tachwedd diwethaf, cynhaliodd Canolfan Hyfforddiant Moduro gwbl fodern y Coleg rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills y DU, gan arddangos y diwydiant moduro a datblygu ei dechnegwyr ar gyfer y dyfodol.

Bydd enwau enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi ar 17eg Mawrth. Gallwch ddarllen mwy yma: https://tide.theimi.org.uk/industry-latest/news/2022-imi-awards-shortlists-revealed