Newyddion yn torri: y darlledwr Jason Mohammad i lansio'r Academi Cyfryngau yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro

17 Medi 2021

Bydd y cyflwynydd a’r darlledwr ar y radio a’r teledu, Jason Mohammad, yn lansio'r Academi Jason Mohammad gyntaf erioed yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa ar y tonfeddi.  

O gyngor ac awgrymiadau ar gyfer cyfweld, cynhyrchu'r podlediad perffaith, defnyddio awtociw a chreu rîl arddangos, bydd aelodau o'r Academi yn cael cyflwyniad manwl i'r cyfryngau a newyddiaduraeth gan un o ddarlledwyr mwyaf profiadol y DU, gan ychwanegu sgiliau a phrofiad hanfodol at eu CV a fydd yn eu helpu i fod yn unigryw yng nghanol y dorf ar ôl iddynt orffen yn y coleg.

Bydd pob un o fyfyrwyr Newyddiaduraeth BTEC CCAF yn elwa’n awtomatig o’r Academi fel rhan o’u cwrs, gan elwa o gyflwyniad manwl i’r cyfryngau a newyddiaduraeth, teithiau unigryw i leoliadau cyfryngau yn y DU a llawer mwy! Bydd llefydd ychwanegol yn Academi’r Cyfryngau hefyd, i fyfyrwyr o feysydd pwnc eraill ledled y Coleg, fel chwaraeon a’r cyfryngau, sydd â diddordeb yn y diwydiant ac sydd eisiau cymryd rhan ochr yn ochr â’u cwrs.

Ac nid aelodau’r Academi yn unig fydd yn elwa o wybodaeth ac arbenigedd Jason - cynhelir cyfres o weithdai unigol drwy gydol y flwyddyn academaidd, ar-lein ac ar y campws, i fyfyrwyr CCAF gael gwybodaeth am themâu penodol a chlywed gan sêr chwaraeon proffesiynol ac unigolion o bob rhan o'r diwydiant.

Dywedodd Jason: “Rydw i mor falch o fod yn ymuno â CCAF ar gyfer yr Academi Jason Mohammad gyntaf erioed. Dyma fy hen goleg i hefyd - lle wnes i fy Lefel A - felly mae bod yn ôl yma’n cynghori ac yn helpu myfyrwyr ifanc i fynd i mewn i’r byd teledu, ffilm, radio a phodledu fel dychwelyd adref!

“Fe wnes i gyflwyno fy sioe deithiol gyntaf erioed gyda’r Coleg yn ôl ym mis Ionawr 2020 ac roeddwn i’n gwybod bod hynny’n ddechrau ar rywbeth arbennig.

“Mae’r myfyrwyr a ddaeth i fy nosbarthiadau meistr wedi mynd ymlaen i weithio i stiwdio ffilm fawr a dechreuodd un gwrs newyddiaduraeth yn y brifysgol. Rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy yn dod i CCAF i astudio a bod yn rhan o fy Academi newydd a dod yn gyflwynwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr a newyddiadurwyr y dyfodol.”

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Rydyn ni’n falch o gael Jason fel cyn-fyfyriwr yn CCAF ac mae wedi bod yn ffrind i'r Coleg ers amser maith felly rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gydag ef ar yr Academi Jason Mohammad gyntaf erioed.

“Mae ffilmiau a darlledu’n feysydd twf enfawr i economi Cymru a bydd mentrau fel Academi Jason Mohammad yn gwneud gwaith hanfodol i fynd i’r afael â bylchau sgiliau yn y diwydiannau creadigol a helpu i arallgyfeirio gweithlu’r dyfodol. Bydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu sgiliau pellach yn ychwanegol at eu prif gymhwyster ac elwa ar ystod profiad Jason - gan eu hysbrydoli, dysgu sgiliau gwerthfawr iddynt ar gyfer dyfodol ym maes darlledu neu wneud ffilmiau a darparu ychwanegiad unigryw at eu CV wrth iddyn nhw gychwyn yn y diwydiant. ”

Hoffech chi fod yn rhan o Academi Jason Mohammad eleni?
Os felly, mae amser o hyd i gymryd rhan…

  • Astudio BTEC Newyddiaduraeth - Mae llefydd cyfyngedig ar gael o hyd ar gwrs Newyddiaduraeth BTEC llawn amser yn CCAF, y gellir ei astudio ar ei ben ei hun neu ochr yn ochr â chyrsiau Safon Uwch eraill. I wneud cais cliciwch yma.
    neu
  • Gwneud cais i fod yn rhan o’r academi ochr yn ochr â’ch cwrs presennol yn CCAF - Gall unrhyw ddysgwyr llawn amser yn CCAF a hoffai hefyd wneud cais am le yn yr academi unigryw hon, ochr yn ochr â'u cwrs presennol, wneud cais yma.