Capten Academi Rygbi cyntaf Coleg Caerdydd a'r Fro, Ben Thomas, Chwaraewr Rhyngwladol dros Gymru, yn ymuno â'r tîm presennol am yr hyfforddiant cyn y tymor

6 Medi 2021

Mae Capten cyntaf erioed Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro, y chwaraewr rhyngwladol dros Gymru, Ben Thomas, wedi dod yn ôl i’r Coleg i helpu i ysbrydoli sêr rygbi’r dyfodol sydd ar fin dilyn yn ôl ei droed.           

Ymunodd Canolwr Rygbi Caerdydd, Ben, a enillodd ei gap cyntaf eleni, â'r Academi am hyfforddiant cyn y tymor a chwrdd â'r Capten presennol Saul Hurley a'r Cyd-gapten Tom Caple.

Mae Academi Rygbi CAVC, sydd bellach wedi'i hen sefydlu, yn darparu llwyfan perffaith ar gyfer myfyrwyr ifanc, ymroddedig sydd â diddordeb mewn rygbi lefel perfformiad ac elitaidd. Mae'r Academi’n rhoi pwyslais cadarn ar gydbwysedd rhwng perfformiad chwaraeon a chyflawniad addysgol ac mae CAVC wedi ymrwymo i gefnogi’r chwaraewyr gyda'r ddau.

“Bydd yr Academi Rygbi yn rhoi eich blas cyntaf ar broffesiynoldeb i chi,” meddai Ben wrth y chwaraewyr. “Mae'r arferion rydych chi'n eu datblygu yma yn rhai y byddwch chi'n eu defnyddio yn eich gyrfa rygbi, boed hynny gydag Academi'r Gleision, rygbi’r Uwch Gynghrair neu hyd yn oed yn chwarae dros Gymru.”

Dewisodd Saul, fel Ben, ymuno â Choleg Caerdydd a’r Fro o Ysgol Uwchradd Corpus Christi i astudio Safon Uwch ar ôl cael cynnig ysgoloriaethau yn rhai o golegau mwyaf anrhydeddus y DU ar gyfer rygbi perfformiad uchel.

“Fe wnes i ddewis CAVC oherwydd ei fod yn rhoi cyfleoedd gwych i mi wneud Safon Uwch a’i gyfuno gyda rygbi ar yr un pryd,” meddai’r llanc 16 oed o Gaerdydd. “Mae’r cyfnod cyn y tymor wedi bod yn bleserus iawn ac yn fuddiol iawn hyd yn hyn.

“Rydw i’n falch iawn fy mod i wedi cael fy newis yn gyd-gapten eleni ac rydw i’n gyffrous am chwarae ochr yn ochr â’r bechgyn mewn gemau cystadleuol nawr.”

Daeth y cyd-gapten, Tom, 17 oed ac o Gaerdydd, i CAVC i wneud ei Safon Uwch hefyd. Dylanwadwyd ar ei benderfyniad yntau i ddod i CAVC o Ysgol Uwchradd Llanisien gan y cyfle i gyfuno astudiaethau â rygbi lefel uchel.

“Mae cyn y tymor wedi bod yn dda iawn, yn eithaf dwys, llawer o hyfforddiant a llawer o waith campfa ond mae'n dod at ei gilydd yn dda nawr wrth i ni ddod at y diwedd,” meddai Tom.

“Fe wnaethon ni golli llawer o rygbi y llynedd felly roedd gofyn i mi fod yn Gapten ar gyfer y tymor yma’n gyffrous iawn, rydw i wedi bod yn edrych ymlaen at y cyfle ac rydw i'n falch iawn o fod yn chwarae gyda grŵp mor wych o fechgyn.”

Er gwaethaf diffyg cyfleoedd i chwarae a orfodwyd gan gyfyngiadau a chyfnodau clo COVID-19, mae Academi Rygbi CAVC wedi mynd o nerth i nerth.

Ochr yn ochr â Ben, a dderbyniodd ei gapiau proffesiynol cyntaf ar lefel Hŷn dros yr Haf ac a ddewiswyd ar gyfer profion Cymru yn erbyn Canada a’r Ariannin, dewiswyd y cyn-chwaraewyr Evan Lloyd, Nathan Evans a Jake Beetham i gyd i chwarae dros Gymru ar lefel dan 20 oed.

Mae Prop Pen Tynn cyfredol yr Academi eleni, Owen Hetherhill, y Bachwr Harri Williams, yr Ail Reng Tom Caple, yr Hanerwr Zak Fifield a’r Asgellwr Jake Thomas i gyd yn cynrychioli carfan Rygbi dan 18 gadarn Caerdydd. Hefyd mae llawer o gynaelodau’r Academi wedi mynd ymlaen i astudio yn y prifysgolion oedd yn ddewis cyntaf ganddynt.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi CAVC, Martyn Fowler: “Er ei bod yn ddyddiau cynnar i Academi Rygbi CAVC o gymharu â sefydliadau eraill ledled y wlad, rydyn ni’n rhagori ar y disgwyliadau. Rydyn ni wedi cael mwy na 140 o fyfyrwyr yn cynrychioli Rygbi Caerdydd ar lefelau clwb Dan 18 a Hŷn, ac mae 32 o'n myfyrwyr ni wedi sicrhau llefydd ar lefel genedlaethol Dan 18, Dan 19, Dan 20, Dan 18 Rygbi Saith a Rygbi Saith Hŷn ac ar lefel genedlaethol Hŷn.

“Mae'r cyflawniadau hyn yn dangos gwaith caled ac ymrwymiad nid yn unig y chwaraewyr, ond staff y rhaglen Rygbi a'u ffocws ar welliant parhaus. Mae hefyd yn adlewyrchu'r gefnogaeth y mae'r Academi Rygbi yn ei chael ar draws y Coleg ar bob lefel.

“Mae’r myfyrwyr yma, a llawer mwy, yn cael y sicrwydd, dim ots pa rwystrau mae eu gyrfa rygbi berthnasol yn eu cyflwyno, bod ganddyn nhw radd o gyrchfan o safon, neu brentisiaeth i gefnogi eu pontio i'r yrfa o’u dewis. Ac mae pawb sy'n ymwneud â'r Rhaglen Rygbi yn hynod falch ohonyn nhw.”