Ailachredu Coleg Caerdydd a’r Fro ar gyfer y Safon matrix

27 Mai 2021

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi'i achredu ar gyfer y Safon matrix, gan ddangos y cyngor a'r arweiniad o ansawdd uchel mae'n eu darparu i fyfyrwyr ar draws y Coleg.

Safon matrix yw'r safon ansawdd ryngwladol ar gyfer sefydliadau sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a/neu arweiniad, naill ai fel eu hunig ddiben neu fel rhan o ddarpariaeth eu gwasanaeth. Enillodd CCAF achrediad yn wreiddiol ym mlwyddyn academaidd 2018-19, a dyma’r coleg cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

Nododd adroddiad yr adolygiad achredu fod gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr drwy eu tiwtoriaid personol, a thrwy staff profiadol a chymwys ym mhob maes cymorth. Mae hyn yn cynnwys Gwasanaethau Myfyrwyr, y Ganolfan Gyrfaoedd a Syniadau, Canolfannau Llwyddiant a Chymorth Dysgu Ychwanegol.

Cyfeiriodd hefyd at ansawdd y cymorth sy'n cael ei raddio'n uchel mewn arolygon myfyrwyr gan ddyfynnu lefelau boddhad myfyrwyr o 95%, a'r "graddau uchel o werth ychwanegol" mae CCAF yn eu cynnig i'w ddysgwyr drwy brofiadau cyfoethogi ychwanegol fel cystadlaethau WorldSkills, Mentoriaid Miliwn ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch a Barod am Yrfa. 

Dywedodd Roger Chapman, Pennaeth Gwasanaeth matrix ar gyfer The Growth Company: "Mae hwn yn gyflawniad gwych i Goleg Caerdydd a'r Fro a hoffwn longyfarch y tîm ar eu llwyddiant. Rydym yn credu bod arweinyddiaeth gref, gwasanaeth rhagorol a ffocws ar welliant parhaus wrth galon y gwasanaethau cyngor a chymorth, yn seiliedig i gyd ar ddefnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael.  

"Nod Safon matrix yw meincnodi sefydliadau yn erbyn arfer gorau yn y meysydd hyn. Gyda'u llwyddiant yn yr achrediad, mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn gweithio i ddarparu'r gefnogaeth orau bosibl i'w fyfyrwyr."

Dywedodd Sharon James, Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Yn CCAF mae ein gwaith ar draws y Coleg yn cael ei arwain gan sbardunau allweddol Ansawdd, Effeithlonrwydd a Thwf, felly mae cadw'r Safon matrix ar sail gwerth y cyngor a'r arweiniad rydym yn eu darparu’n newyddion gwych.


"Rydym wedi ymrwymo'n gadarn i helpu ein myfyrwyr i ddysgu a datblygu drwy gydol eu Siwrnai fel Dysgwyr, ac rydym yn ceisio eu cefnogi bob cam o'r ffordd. Da iawn i bawb ar draws y Coleg sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod y cyngor a'r arweiniad rydym yn eu cynnig o safon mor uchel – ni fyddem wedi gallu gwneud hyn hebddoch chi."