Mae Darlithydd Sgiliau Byw'n Annibynnol Coleg Caerdydd a'r Fro, Chantelle Deek, wedi cael canmoliaeth uchel yng Ngwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant WorldSkills.
Roedd Chantelle ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Amrywiaeth Cystadlaethau, gan gydnabod ei hegni i godi ymwybyddiaeth a gwella ymgysylltiad â Chystadlaethau WorldSkills UK, a'i hymrwymiad i ysbrydoli a grymuso cymunedau a dangynrychiolir i gymryd rhan yn y cyfleoedd mae’r Cystadlaethau Sgiliau yn eu cynnig.
"Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael canmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth WorldSkills ar gyfer Cynhwysiant ac Amrywiaeth," meddai Chantelle. "Mae wedi bod yn gyfle mor bositif i'n dysgwyr ni gymryd rhan ac arddangos eu sgiliau anhygoel.
"Mae wedi eu galluogi nhw i ffynnu a thyfu a theimlo’n aelodau gwerthfawr o gymdeithas, lle gallant deimlo'n hyderus gydag annibyniaeth gynyddol am beth bynnag fydd bywyd yn ei roi o’u blaen. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o gystadlaethau sgiliau eraill yn y dyfodol.
Roedd Sudhuf Khan, Swyddog Sabothol Addysg Uwch y Coleg, ar restr fer hefyd, ar gyfer y wobr Seren Newydd, gan gydnabod ei thaith ysbrydoledig drwy Addysg Bellach, ei chyfraniadau at CCAF ac Agored Cymru, a’i chefnogaeth barhaus i'w chyfoedion a'r gymuned ehangach drwy bodlediadau TAR a'r cyfryngau cymdeithasol