Mae deuddeg dysgwr o Goleg Caerdydd a’r Fro yn paratoi i gystadlu yn erbyn y goreuon heb eu hail yn y wlad yn rownd derfynol WorldSkills UK yr wythnos nesaf.
Bydd y myfyrwyr yn cystadlu yn erbyn enillwyr rhanbarthol cystadlaethau sgiliau o bob rhan o'r DU yn eu disgyblaeth. Wedyn mae gan yr enillwyr yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK siawns o gynrychioli’r DU yn y ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ – gornest ryngwladol WorldSkills 2022 yn Shanghai.
Dyma’r myfyrwyr o CAVC sydd yn y Rownd Derfynol:
Cystadlodd y Coleg mewn Celf Gemau 3D, Gwyddoniaeth Fforensig a Dylunio Gwefannau am y tro cyntaf eleni gyda’r cystadleuwyr yn cyrraedd y rownd derfynol.
Mae gan CAVC saith cystadleuydd arall yn rownd derfynol y gystadleuaeth Inclusive Skills UK ar gyfer dysgwyr ag anghenion addysgol ychwanegol, gan ddod â chyfanswm y nifer sy’n deilwng o’r Coleg i 19. Dyma nhw:
• Zenia Amjad – Garddwriaeth
• Mackenzie Foley – Garddwriaeth
• Milly Caner – Garddwriaeth
• Macey Williams – Trin Gwallt
• Abby Simons – Trin Gwallt
• Caitlin Thomas – Trin Gwallt
• Chardonnay Palmer – Trin Gwallt
Yn wahanol i flynyddoedd eraill, ni fydd y cystadleuwyr yn teithio i NEC Birmingham ar gyfer Rowndiau Terfynol WorldSkills UK. Bydd Canolfan Foduro gwbl fodern CAVC yn cynnal rowndiau terfynol yr ornest Foduro, a bydd James yn teithio i Media City ym Manceinion ar gyfer Celf Gemau. Bydd Ellie yn mynd i Brifysgol Manceinion ar gyfer Gwyddoniaeth Fforensig, Laura i CITB Norfolk i Deilsio Waliau a Lloriau, Ruby i Goleg Dinas Glasgow ar gyfer Gwasanaeth Bwytai a bydd Rhydian yn mynd i Goleg Weston ar gyfer Dylunio Gemau 3D.
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Er gwaethaf wynebu un o’r blynyddoedd academaidd mwyaf heriol erioed, mae ein myfyrwyr ni wedi gwneud gwaith anhygoel ac mae gweld y bydd 12 ohonyn nhw’n cymryd rhan yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK yn gyflawniad anhygoel.
“Rydw i’n hynod falch o’r myfyrwyr, ac o’r staff ar draws y Coleg sydd wedi gweithio mor galed a gyda chymaint o ymroddiad, gan gynnal cystadlaethau rhagarweiniol yn fewnol i gael y dysgwyr i safon mor uchel.”