Mae Bywydau Du o Bwys - Ein Datganiad

18 Meh 2020

 Mae’r digwyddiadau rydyn ni wedi bod yn dyst iddyn nhw yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi ysgwyd y byd. Maen nhw wedi tynnu sylw at yr angen am i unigolion a sefydliadau fel ei gilydd wneud safiad a sefyll yn erbyn anghydraddoldeb hirsefydlog a materion sy’n effeithio ar ein cymunedau ni.

Fel coleg, rydyn ni wedi cymryd ychydig o amser cyn rhyddhau’r datganiad yma i wrando, dysgu, adlewyrchu a darparu ymateb pwyllog ac ystyrlon i rywbeth yr ydyn ni’n rhoi ystyriaeth eithriadol ddifrifol iddo.

Rydyn ni’n falch o fod yn gwasanaethu’r gymuned fwyaf amrywiol yng Nghymru ac rydyn ni wedi derbyn statws Arweinwyr mewn Amrywiaeth am ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydyn ni’n feirniadol o bob ffurf ar hiliaeth ac ymddygiad sy’n gwahaniaethu. Rydyn ni’n ceisio dileu gwahaniaethu a goresgyn y gwahaniaethau sy’n bodoli yn ein cymdeithas ni ac sydd wedi arwain at bobl yn cael eu trin yn llai ffafriol nag eraill.

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yn datgan ein hymrwymiad i wneud hyn a’n nodau a’n camau gweithredu cysylltiedig i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldeb i ddarparu cyfleoedd i unigolion gyflawni eu potensial mewn amgylchedd diogel heb unrhyw wahaniaethu.

Fe allwn ni wneud mwy bob amser. Nawr yw’r amser i gamu ymlaen a gofyn cwestiynau i ni’n hunain fel ein bod yn gallu deall y ffordd orau i gefnogi Mae Bywydau Du o Bwys, sefyll gyda a siarad ar ran ein dysgwyr, ein staff a’n cymuned a brwydro yn erbyn hiliaeth mewn addysg a phob agwedd ar gymdeithas. Byddwn yn gweithio gyda’r staff, y dysgwyr a’n cymuned ar ein siwrnai i gyflawni hyn. Byddwn yn parhau i wrando a dysgu ac, yn ein tro, addysgu a chreu newid sy’n cael gwir effaith ar gymdeithas ac ar ein rhanbarth ni.

Ar gyfer staff a myfyrwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau diweddar ac sydd eisiau cefnogaeth, fel erioed mae ein gwasanaethau cefnogi ni yma i chi o hyd.