Mae myfyrwraig Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Sarah James, wedi parhau i weithio gyda rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymuned ni yn ystod y pandemig.
Mae Sarah yn gyflogedig fel Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd Anghenion Cymhleth llawn amser, yn gweithio gyda gŵr sydd â Dystroffi’r Cyhyrau Duchenne yng Nghaerdydd sydd angen cymorth peiriant anadlu 24 awr y dydd.
Cyn dechrau yn ei rôl bresennol ym maes gofal cymdeithasol i oedolion yn 2018, roedd Sarah yn gweithio fel gweithiwr cefnogi gyda phlant ac oedolion ifanc sydd ag anawsterau ac anableddau dysgu mewn canolfan breswyl.
“Rydw i wrth fy modd yn fy swydd ac mae gen i berthynas wych gyda defnyddiwr y gwasanaeth. Mae fel gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu – dydych chi ddim yn gallu peidio dod yn agos,” meddai Sarah. “Yn ffodus iawn rydyn ni wedi cael digon o PPE i wneud ein gwaith yn ddiogel.
“Mae’r pandemig ei hun wedi effeithio arnon ni yn bennaf o ran offer, gan fod prinder yn Ewrop o rai eitemau, fel tiwb sugno caeedig sy’n hanfodol i ddefnyddiwr fy ngwasanaeth i.”
Mae rôl Sarah yn cynnwys pob agwedd ar ofal dyddiol, o ofal personol i roi meddyginiaeth a dyletswyddau clinigol yn ôl yr angen. Ochr yn ochr â hyn, mae Sarah yn gymorth a ffrind hanfodol, ac yn gwmni drwy gydol y dydd, gan feithrin perthynas gyda’r rhai mae’n gweithio â hwy. Mae’n ddibynadwy drwy gydol y cyfnod anodd yma.
Yn ymdopi â’i hastudiaethau yn CCAF ochr yn ochr â gweithio yn llawn amser hefyd, mae Sarah i fod i orffen yn 2021. Mae’n gobeithio parhau â’i haddysg yn astudio nyrsio mewn prifysgol, gan arbenigo mewn nyrsio anableddau.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio cwrs Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, cofrestrwch ymaar gyfer Diwrnod Agored Rhithiol 24/7 CAVC lle gallwch gael gwybodaeth am y cwrs mynediad a gofyn cwestiynau ar yr amser mwyaf cyfleus i chi.