Croeso i'n Diwrnod Agored Rhithwir 24/7

Croeso i’n diwrnod agored 24/7 ar-lein!

Yma, gallwch gael cipolwg ar fywyd CAVC unrhyw amser, unrhyw bryd, o unrhyw le!

  • Dewch i “gwrdd” â’r tiwtoriaid ar fideo i glywed am gyrsiau
  • Dewch ar daith rithiol 
  • Gofynnwch gwestiwn i ni  
  • Gwrandewch ar ein myfyrwyr ni ar fideo

Gall rhieni gael mynediad i’r parth rhieni am wybodaeth wedi’i theilwra. Gallwch hefyd ddysgu ynglŷn â chefnogaeth a chyfleoedd a gallwch ymgeisio am gwrs heddiw – dilynwch ein canllaw fideo cam wrth gam.

Teithiau Rhithwir

Yma gallwch fynd ar daith rithwir o amgylch rhai o'n cyfleusterau niferus i roi syniad i chi o'r hyn y mae ein campysau yn ei gynnig. Mwy o deithiau rhithwir yn dod yn fuan.