Mae Coleg Caerdydd a’r Fro ac Academi Griced ac Addysg Criced Sirol Morgannwg wedi ennill cystadleuaeth Criced 24 Colegau Cymru er nad oedd y tîm wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth erioed o’r blaen.
Cynhaliodd yr Academi y gystadleuaeth yn lleoliad Criced Morgannwg yng Ngerddi Sophia. Cystadlodd dau dîm - BTEC Chwaraeon Lefel 3 Blwyddyn 1 a BTEC Chwaraeon Lefel 3 Blwyddyn 2.
Chwaraewyd y twrnamaint ar ffurf gornest gron gydag enillwyr y gynghrair yn cipio’r wobr. Daeth timau’r Academi Griced i frig y safleoedd gyda thîm Blwyddyn 2 yn ennill y gêm derfynol a bydd yn mynd ymlaen yn awr i Bencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau (AoC).
Dywedodd yr hyfforddwr Adam Harrison: “Rydyn ni wrth ein boddau yn cael mynd ymlaen i’r Pencampwriaethau Cenedlaethol gan mai dyma ein tro cyntaf ni’n chwarae yng nghystadleuaeth Colegau Cymru. Fe chwaraeodd y bechgyn griced rhagorol, gan ennill pob gêm ac yn erbyn cystadleuaeth gref gan Goleg Gŵyr a Choleg Castell-nedd Port Talbot.
“Hwn fydd ein tro cyntaf ni ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol yr AoC ac mae’r tîm yn edrych ymlaen yn fawr at y profiad. Rydyn ni’n gwybod y bydd y gystadleuaeth yn anodd, ond fe fyddwn ni’n mynd yno i ennill!”
Bydd yr Academi Griced ac Addysg yn ymuno ag Academi Bêl Droed CAVC, y fyfyrwraig Safon Uwch Ellie Robinson sy’n cystadlu yn y traws gwlad, a chwaraewr arall o’r academi, Ellis James, sy’n cystadlu ar chwarae golff ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol yr AoC fis Ebrill.
Mae Academi Griced ac Addysg CAVC/Criced Morgannwg yn rhan o amrywiaeth gynyddol y Coleg o Academïau Chwaraeon. Nod yr academïau yw darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o’r safon uchaf gyda chyrsiau amrywiol CAVC sy’n prysur ehangu.
Mae’r Academi ar agor i bobl sy’n dymuno astudio BTEC Lefel 3 yng Ngerddi Sophia a hefyd myfyrwyr CAVC. Byddant yn cael eu hyfforddi gan Adam Harrison a Michael Clayden o Forgannwg.