Morgan, myfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, yn trechu’r gystadleuaeth i sicrhau prentisiaeth lefel gradd proffil uchel

15 Hyd 2020

Mae myfyriwr Seibr Ddiogelwch o Goleg Caerdydd a'r Fro wedi cyrraedd brig rhestr o gannoedd i sicrhau prentisiaeth Peirianneg Meddalwedd lefel gradd gyda chwmni gwasanaethau ariannol mawr yn Llundain.

Cynigiwyd un o ddim ond pedwar lle i Morgan McNeil, sy'n 18 oed ac yn dod o Gaerdydd – roedd ymhlith mil o ymgeiswyr am y rôl. Cafodd gefnogaeth gan Cristina Negoescu, Hyfforddwr Gyrfaoedd CAVC, a thîm Gyrfaoedd a Syniadau'r Coleg drwy gydol ei gais.

Tra oedd yn astudio yn y Coleg, cynrychiolodd Morgan Gymru yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yn y rowndiau rhagbrofol Gweinyddwr System Rhwydwaith. Mae'n parhau â'i hyfforddiant WorldSkills yn CAVC ochr yn ochr â'i brentisiaeth ac mae'n gobeithio cael ei ddewis ar gyfer Tîm y DU i gystadlu yn rowndiau terfynol y byd yn Shanghai.

Mae Morgan wedi cael ei gefnogi drwy gydol y cyfnod clo gan Emma Andrews, y Swyddog WorldSkills, y Darlithydd Seibr Ddiogelwch Pete Franklin ac Inspiring Skills. Ar hyn o bryd mae'n derbyn hyfforddiant WorldSkills yn y Coleg – un o Ganolfannau Rhagoriaeth cyntaf WorldSkills UK – ar y safle gyda Peter Franklin ac ar-lein gyda Dr Kaplan Radhakrishan, Cyfarwyddwr Academaidd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn cael ei galw’n 'Gemau Olympaidd Sgiliau' yn aml, mae WorldSkills yn gystadleuaeth ryngwladol sy'n gosod talentau ifanc gorau’r byd yn erbyn ei gilydd mewn cystadlaethau ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau. Rôl y Coleg fel rhan o Ganolfan Ragoriaeth WorldSkills UK yw ymgorffori hyfforddiant sgiliau o'r radd flaenaf ar draws ei gwricwlwm cyfan.

Mae Morgan hefyd wedi ymuno â Rhaglen Llysgenhadon Inspiring Skills a fydd yn cynnwys gweithio gydag ysgolion a cholegau lleol i ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn cystadlaethau a hyrwyddo llwybrau gyrfa galwedigaethol.

"Rydw i ar ben fy nigon - mae'n deimlad mor anhygoel dod mor bell â hyn," meddai Morgan am ei brentisiaeth. "Rydw i wedi sicrhau cyfle gyrfaol anhygoel i mi fy hun ar brentisiaeth gradd fel Peiriannydd Meddalwedd gyda chwmni mawr yn Llundain.

"Roedd cymaint o gystadleuaeth gyda 1,000 o ymgeiswyr a dim ond pedwar lle ar gael. Rydw i'n ddiolchgar iawn am yr holl help a’r gefnogaeth gefais i gan CAVC ac i'r holl staff wnaeth gredu yn fy ngallu i i lwyddo."

Mae Morgan yn meddwl mai dod i Goleg Caerdydd a'r Fro oedd "y penderfyniad gorau rydw i wedi'i wneud erioed ".

"Mae fy amser i yn CAVC wedi rhoi'r cyfleoedd mwyaf anhygoel i mi a ’fyddwn i erioed wedi'u profi nhw o fynd i rywle arall," esboniodd. "Mae'r staff a'r tiwtoriaid yn CAVC yn mynd yr ail filltir i bob myfyriwr ac mae'n deimlad gwych gwybod eich bod chi yn y dwylo gorau.

"Fe wnaeth fy nhiwtor i, Peter Franklin, roi’r hyfforddiant gorau i mi gan helpu i wthio fy ngallu i'r lefel nesaf a'm hannog i fod y fersiwn gorau ohono i fy hun. Mae cymaint mae CAVC wedi'i wneud i fy helpu i i ddisgleirio ac rydw i'n hynod ddiolchgar am hynny."

Mae cymryd rhan yn WorldSkills yn rhywbeth y dylai pawb roi cynnig arno, dadleua Morgan.

"Mae wedi rhoi hyfforddiant a chyfleusterau o safon byd i mi sydd wedi fy helpu i fynd yr ail filltir yn fy maes sgiliau a'm helpu i gael cyfle gyrfaol anhygoel," meddai. "Nid dim ond “gweithgaredd allgyrsiol arall” ydi hyn, mae'n gymaint mwy a dyna beth sydd angen i bobl ddeall - mae'n fuddsoddiad yn llythrennol yn eich dyfodol chi."

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro Kay Martin: "Rydyn ni i gyd yn eithriadol falch o Morgan a phopeth mae wedi'i gyflawni. Mae ei daith yn ysbrydoliaeth ac yn dyst gwirioneddol i'r effaith hynod fuddiol y gall cymryd rhan yn WorldSkills ei chael.

"Llongyfarchiadau i Morgan ac i bawb yn CAVC sydd wedi gweithio mor galed i'w helpu i gyrraedd y lefel uchel yma."