Celf. Dylunio. Perfformiad. Sioe diwedd blwyddyn greadigol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

13 Mai 2019

Bydd y genhedlaeth nesaf o waith talent artistig Cymru’n cael ei harddangos yn y brifddinas fis nesaf pan fydd myfyrwyr Creadigol Coleg Caerdydd a’r Fro’n cynnal eu sioe a’u harddangosfa diwedd blwyddyn arbennig.

Bydd yn haf creadigol ar draws y brifddinas-ranbarth wrth i fyfyrwyr campws y Barri y Coleg arddangos eu gwaith yn y Fro.

Bydd yr arddangosfa ar Gampws Canol y Ddinas eiconig y Coleg ar Heol Dumballs yn cynnwys cymysgedd o gyfryngau, gan gynnwys paentio, cerflunio a dylunio cynnyrch. Hefyd bydd agoriad yr arddangosfa’n cynnwys Sioe Haf diwedd blwyddyn a bydd yr artistiaid wrth law i siarad am eu gwaith, a bydd perfformiadau gan y dysgwyr Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio, a sioe ffasiwn gan y myfyrwyr Dylunio Ffasiwn.

Bydd yr arddangosfa’n agor ddydd Gwener y 7fed o Fehefin am 5pm a bydd yn cynnwys rhaglen lawn o ddigwyddiadau. Mae’r sioe a’r arddangosfa ar agor i bawb a gallwch gofrestru yma.

Mae gan CCAF un o’r Adrannau Creadigol mwyaf mewn unrhyw goleg yng Nghymru ac mae llawer o’r dysgwyr yn mynd ymlaen i gwblhau cyrsiau prifysgol mewn Celf, Ffasiwn, Theatr a Pherfformio, felly mae hwn yn gyfle gwych i weld artistiaid blaenllaw yfory. Hefyd bydd arddangosfa o waith gan fyfyrwyr ar Gampws y Barri y Coleg yn Adran Gelf Llyfrgell y Barri rhwng yr 8fed a’r 22ain o Fehefin gyda noson arbennig ar gyfer ei gweld ar 13eg Mehefin rhwng 6 ac 8pm.