Stood Up – Myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymddangos ar y llwyfan gyda Jack Whitehall

17 Rhag 2019

Mae myfyrwyr Celfyddydau Perfformio o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi ymddangos ar y llwyfan gyda’r comedïwr Jack Whitehall fel rhan o’i sioe deithiol newydd, Stood Up.

Mae disgwyl i’r dysgwyr ymuno ag ef eto pan fydd y sioe yn dychwelyd i Gaerdydd yn y Flwyddyn Newydd.

Cysylltodd asiant Jack â’r Coleg i ofyn a fyddai unrhyw ddysgwyr ar gael, ac roeddent wrth eu bodd o gael y cyfle. Bu un ar ddeg o fyfyrwyr – pump BTEC a chwe Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio – yn cymryd rhan yn finale cynhyrchu mawr y sioe stand-yp.

Dywedodd y dysgwr Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio, Andrew Parsons: “Roedd yn llawer o hwyl ac yn gyfle gwych – roedd rhaid i ni ddysgu dawns fer. Roedd yn grêt cael profiad mor dda o weithio yn y proffesiwn.

“Roeddwn i’n llawer mwy nerfus na’r disgwyl ond roedd pawb yn gefnogol iawn. Mae wedi helpu gyda fy hyder i yn sicr.”

Dywedodd myfyriwr Gradd Sylfaen arall mewn Celfyddydau Perfformio, Chelsea Paterson: “Roedd yn anhygoel – doeddwn i ddim yn gallu cau fy ngheg am y peth wedyn! Rydw i wedi perfformio o’r blaen o flaen cynulleidfa ond hon oedd y fwyaf.

“Mae hyn yn mynd i fod yn 100% o help i mi yn yr yrfa fydda’ i’n ei dewis – mae hyn yn mynd ar fy CV i yn sicr. Rydw i eisiau bod yn berfformiwr ar lwyfan yn nes ymlaen beth bynnag, felly mae’n beth mawr i mi.”

Bydd y myfyrwyr Gradd Sylfaen yn ymuno â Jack Whitehall eto pan fydd Stood Up yn dychwelyd i Arena Motorpoint Caerdydd ar y 3ydd a’r 4ydd o Ionawr.