Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn dathlu blwyddyn arall o lwyddiant gorau erioed gyda mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn cyflawni eu cymhwyster Lefel A ac UG.
Ym mlwyddyn gyntaf y Lefelau A newydd, diwygiedig fe gyflawnodd bron i ddwy draean o fyfyrwyr CAVC raddau A-C. Yn ystod blwyddyn o gynnydd ar draws y bwrdd, roedd y nifer o fyfyrwyr yn ennill eu cymhwyster A2 i fyny 5% o’r flwyddyn ddiwethaf ac ar Lefel UG cynyddodd y ffigwr 9%.
Gwelodd y Coleg fwy o fyfyrwyr yn sefyll arholiadau Lefel A ac UG nag erioed o’r blaen ac mae’r canlyniadau yn cynnal eu hymrwymiad i ddarparu ansawdd uchel o addysg Lefel A.
Mae sawl pwnc gan gynnwys Mathemateg Bellach, Ffotograffiaeth a Graffeg wedi cofnodi cyfraddau llwyddo o 100%, a bydd dysgwyr CAVC yn mynd ymlaen i brifysgolion blaenllaw, yn cynnwys colegau Oxbridge ac aelodau eraill o brifysgolion elitaidd y Grŵp Russell. Gwelodd nifer o bynciau, yn cynnwys Graffeg, Astudiaethau Ffilm, Ffrangeg, Y Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Hanes a Seicoleg fwy na 50% o ddysgwyr yn ennill graddau A*-B.
Dywedodd Pennaeth CAVC, Kay Martin: “Mae wastad yn bleser cyfarfod ein myfyrwyr a chlywed eu straeon unigol o gyflawniad personol ar ddiwrnod canlyniadau Lefel A wrth i’r bobl ifanc hyn gychwyn pennod newydd yn eu bywydau.
“Bob blwyddyn rydym yn gweld mwy a mwy o fyfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn cyflawni eu cymwysterau Lefel A ac UG. Rwyf yn hynod falch bod gwaith caled cymaint o bobl wedi talu ar ei ganfed a gallant nawr fynd ymlaen i addysg bellach, y brifysgol neu gyflogaeth.”
Mae un o gyflawnwyr uchaf CAVC ar gyfer 2017-18, Bethan Hearne, wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Rhydychen i astudio Seicoleg drwy ennill graddau A* mewn Seicoleg a Bioleg a graddau A mewn Mathemateg a Bagloriaeth Cymru.
“Nid wyf yn gwybod yn iawn sut dwi’n teimlo – dydi popeth ddim wedi cael effaith arnaf eto ond rwy’n hapus!” dywedodd Bethan. “Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl”.
“Rydw i wir wedi mwynhau’r Coleg ac mae’r profiad wedi rhoi her newydd ac anghyfarwydd i mi. Ni fyddwn i erioed wedi cyrraedd cyn belled â hyn yn fy hen ysgol.
“Rwy’n edrych ymlaen at y tair blynedd nesaf, a pharhau i astudio rhywbeth yr wyf yn ei fwynhau – yna cawn weld ble yr af mewn bywyd.”
Enillodd Jack Browne A* mewn Seicoleg, A mewn Cyfrifiadureg ac A ym Magloriaeth Cymru. Mae nawr yn mynd i Brifysgol Bryste i astudio Seicoleg Arbrofol.
“Teimlaf yn dda iawn ynghylch y canlyniadau – nid oeddwn yn eu disgwyl,” dywedodd Jack. “Prifysgol Bryste oedd yr unig le yr oeddwn eisiau mynd iddo; nid oeddwn yn edrych ar rai eraill, i fod yn onest.
“Mae fy nyled yn fawr i’r Coleg. Roedd yn amgylchedd dysgu gwych ac roedd yr athrawon yn hynod gynorthwyol.”
Enillodd Tegan Frizelle raddau A mewn Mathemateg, Cemeg a Bagloriaeth Cymru, a gradd B mewn Mathemateg Bellach, ac mae’n mynd i Brifysgol Caerdydd ym mis Medi i astudio Cemeg.
“Rwy’n falch o fy nghanlyniadau gan fy mod wedi gweithio mor galed tuag atynt,” dywedodd Tegan, a gynrychiolodd Cymru mewn twrnamaint nofio rhyngwladol yn Ffrainc yn 2017. “Y flwyddyn ddiwethaf cefais raddau B a C felly rhoddais fy ymdrech i gyd i’r flwyddyn hon ac fe roddais y gorau i’r nofio i ganolbwyntio ar fy arholiadau.
“Roedd dod i’r Coleg yn wahanol i mi gan fy mod wedi dod o ysgol breswyl, ond mae’r athrawon wedi fy helpu gymaint yn fwy nag a gefais erioed yn y gorffennol – maent wedi bod yn hynod gefnogol.”
Nid oedd Holly Morgan yn disgwyl cael y canlyniadau yr oedd ei hangen i fynd i’r brifysgol, ond enillodd A ymewn Seicoleg, B mewn Cymdeithaseg a C mewn Astudiaethau Crefyddol.
“Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn i’r ffwrdd o’r Coleg oherwydd fy iechyd meddwl.” eglurodd. “Cefais lawer o gyfarfodydd i ddatrys sut i fy nghael yn ôl i’r Coleg a nawr rwyf wedi cael fy newis cyntaf o brifysgol ac mae’n rhan o’r Grŵp Russell – Birmingham.
“Ni chredais y byddwn yn mynd i brifysgol o gwbl – hyd yn oed ychydig o wythnosau yn ôl nid oeddwn yn credu. Rwyf wedi cael profiad hynod o gadarnhaol yn y Coleg.”
Dywedodd Pennaeth Addysg Gyffredinol CAVC, Yusuf Ibrahim: “Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro mae gennym ymrwymiad gwirioneddol i wella safon addysg i’n myfyrwyr yn barhaol ac mae’r canlyniadau Lefel A hyn yn sylfaen gref i adeiladu arnynt. Mae gennym nifer o feysydd pynciau ble sicrhaodd mwy na hanner y dysgwyr raddau A-B ac roedd gennym fwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen.
“Yng nghyd-destun y diwygiadau Lefel A diweddar ac yng nghyd-destun y cyfartaleddau cenedlaethol, mae’r Coleg wedi perfformio yn rhagorol o dda.”