Safle ysgol a choleg newydd Caerdydd gwerth £26m wedi’i agor yn swyddogol

23 Mai 2018

Agorwyd Campws Cymunedol y Dwyrain, sef cartref newydd Ysgol Uwchradd y Dwyrain a Choleg Caerdydd a’r Fro, yn swyddogol heddiw gan Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, a’r Cynghorydd Bob Derbyshire, Arglwydd Faer Caerdydd.

Cawsant eu cyfarch yn y campws yn Trowbridge gan Armando Di-Finizio, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Dwyrain, y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, Paul Orders, Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd, Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, a Mike James, Prif Weithredwr Coleg Caerdydd a’r Fro, ynghyd â disgyblion a myfyrwyr yr ysgol a’r coleg.

Dadorchuddiwyd plac coffa cyn mynd ar daith o amgylch y campws. Yn ogystal â gweld y cyfleusterau newydd, roedd hi’n gyfle i’r Ysgrifennydd Addysg a’r Arglwydd Faer gyfarfod â disgyblion, myfyrwyr a staff.

Mae’r project £26m i godi’r campws wedi’i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, drwy Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif, band A, gwerth £164m, ar gyfer y ddinas.

Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg: “Mae’n bleser o’r mwyaf cael agor Campws Cymunedol y Dwyrain heddiw, y mae 50% ohono wedi’i gyllido gan £13m o arian cyfatebol drwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru, rhaglen sy’n werth £1.4bn.

“Mae hyn yn nodi cyfanswm o £41 miliwn a fuddsoddwyd mewn addysg uwchradd ar gyfer yr ardal, sy'n cynnwys cyllideb ar gyfer adleoli a chyfuno ysgolion uwchradd cyn adeiladu'r campws.

“Rwy’n falch mai’r rhaglen hon yw’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 1960au, a bydd yn adeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau erbyn 2019.

“Bydd Campws Cymunedol y Dwyrain yn darparu safle ardderchog i ddysgwyr yma yn Nwyrain Caerdydd i ddysgu, bod yn uchelgeisiol a chyflawni. Rwy’n sicr y bydd yr adeilad yn gwasanaethu ein dysgwyr a’n hathrawon yn dda am flynyddoedd lawer i ddod.”



Mae gan Gampws Cymunedol y Dwyrain le i hyd at 1,200 o ddisgyblion Ysgol Uwchradd y Dwyrain, a hyd at 320 o fyfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae ganddo ofodau dysgu hyblyg y gellir eu trefnu at amrywiaeth o ddibenion, a’r cyfleusterau Dylunio a Thechnoleg, gwyddoniaeth a TG diweddaraf.

Mae gan yr ysgol a’r coleg ardaloedd ar wahân, ond mae’r safle hefyd yn galluogi’r ddau sefydliad i ddod ynghyd.

Mae’r campws hefyd yn cynnwys cyfleusterau chwaraeon awyr agored ardderchog, sy’n cynnwys maes chwarae 3G+ llawn wedi’i lifoleuo.

Yn siarad yn ystod yr agoriad swyddogol, gyda’i gyfnod fel yr Arglwydd Faer yn dod i ben yfory, dywedodd y Cynghorydd Bob Derbyshire: “Mae cael yr anrhydedd o agor yr adeilad gwych hwn yn swyddogol ar fy niwrnod llawn olaf yn fy swydd fel yr Arglwydd Faer yn fy ngwneud yn hynod o falch. Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i gyflawni hyn, gan gynnwys cyfraniad gan nifer fawr o bobl.

“Mae Campws Cymunedol y Dwyrain yn fwy nag enw yn unig. Dyma gartref sy’n cael ei rannu gan Ysgol Uwchradd y Dwyrain a Choleg Caerdydd a’r Fro. Dyma’r tro cyntaf i Gyngor Caerdydd a Choleg Caerdydd a’r Fro gydweithio yn y modd hwn, a thrwy hynny, creu darpariaeth ysgol a choleg ar yr un safle a chynnig cyfnod pontio llyfn i addysg a hyfforddiant ôl 16 oed.

“Diolch i bawb a helpodd i gyflawni Campws Cymunedol y Dwyrain, ac am greu amgylchedd dysgu hynod o arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc dwyrain Caerdydd, a chreu cyfleusterau gwych ar gyfer y gymuned gyfan.”

Ochr yn ochr â’r project i adeiladu’r campws newydd, gyda chymorth Cyngor Caerdydd, mae Ysgol Uwchradd y Dwyrain wedi dechrau siwrne o welliant sylweddol.

Dywedodd Armando Di-Finizio, y Pennaeth: “Rydym wedi gweithio’n galed iawn dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf i sicrhau bod ethos ac ansawdd dysgu’r ysgol yn cael eu datblygu i safon sy’n gweddu i adeilad mor arbennig â hwn. O ystyried y gwelliant sylweddol yng nghanlyniadau TGAU yr haf diwethaf, bod Estyn wedi tynnu’r ysgol oddi ar fesurau arbennig ym mis Tachwedd a’n bod wedi codi o gategori ysgolion coch i felyn ym mis Chwefror, rydym wedi dechrau gweld yr holl waith caled yn talu ar ei ganfed.

“Roedd symud yr ysgol mewn ychydig wythnosau yn unig dros wyliau’r Nadolig yn dipyn o gamp hefyd, ac rwy’n falch iawn o’n llwyddiant. Mae agoriad swyddogol heddiw yn gyfle i ni fyfyrio ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni yn y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â chyfle i ni edrych tuag at y dyfodol, gan adeiladu ar ein gwelliant hyd yn hyn, a gwella ein safonau ymhellach wrth i ni anelu at ragoriaeth.”

Wedi’u cynnwys yng nghynlluniau’r campws hefyd roedd amrywiaeth o gyfleusterau at ddefnydd y gymuned, fel meysydd chwarae a gofodau mewnol i’w hurio, a bwyty sy’n cael ei gynnal gan y coleg.

Dywedodd Mike James, Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae’n bleser cael agor Campws Cymunedol y Dwyrain, a nodi carreg filltir bwysig iawn mewn partneriaeth flaengar rhwng Coleg Caerdydd a'r Fro, Cyngor Caerdydd ac Ysgol Uwchradd y Dwyrain i ddod â dewis helaethach o addysg ac opsiynau ôl-16 i bobl ifanc yn nwyrain Caerdydd. Mae Campws Cymunedol y Dwyrain yn gyfleuster ysbrydoledig ar gyfer pobl ifanc a’r gymuned leol ac mae’n wych ei weld e'n agor ac yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial.

“Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro hanes hir o weithio gyda phobl dwyrain Caerdydd ac mae’r campws hyn yn ein galluogi i ddod ag opsiynau ôl-16 yn ôl i’r ardal. Rydyn ni hefyd yn dod â chyfleoedd a llwybrau gyrfa newydd i'r ardal, fydd yn ysgogi ac annog hyd yn oed mwy o bobl."