Mae gennym gyngor ac arweiniad wrth law ac rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar y campws lle gallwch alw heibio, darganfod mwy a dechrau eich siwrne! Cliciwch isod am ddyddiadau a manylion yr holl ddigwyddiadau:
Dyw hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau cwrs amser llawn gyda ni y tymor hwn! Mae gennym ambell i le ar gael o hyd ar amrywiaeth o gyrsiau.
Galwch heibio i Sesiwn Gwybodaeth a Chyngor ar Gofrestru Hwyr lle gall ein staff cyfeillgar helpu.
Os ydych yn awyddus i ddechrau cwrs y tymor hwn, mae gennym ystod eang o gyrsiau rhan amser a chyrsiau proffesiynol ar gyfer oedolion er mwyn helpu i symud eich gyrfa ymlaen neu i newid eich gyrfa. Gallwch weld ein Cyrsiau i Oedolion yma.
Galwch i mewn yn un o’n sesiynau Gwybodaeth a Chyngor Cofrestru Oedolion er mwyn cael gwybodaeth bellach ynghylch dechrau cwrs a chefnogaeth wrth ymgeisio.
Nid yw’n rhy hwyr os ydych chi’n awyddus i ddechrau ar gwrs Addysg Uwch eleni. Mae gennym ambell i le ar gael o hyd ar nifer o gyrsiau lefel prifysgol yn dechrau y tymor hwn. Gallwch weld ein cyrsiau Addysg Uwch yma.
Galwch i mewn yn un o’n sesiynau Gwybodaeth a Chyngor Cofrestru Oedolion er mwyn cael gwybodaeth bellach ynghylch dechrau cwrs a chefnogaeth wrth ymgeisio.