Cyfoethogi Dysgu Drwy Dechnoleg (TEL)

Mae TEL yn ymwneud â defnyddio technoleg i gyfoethogi eich dysgu yn CAVC.

Mae TEL yn ymwneud â defnyddio technoleg i gyfoethogi eich dysgu yn CAVC. Mae hyn yn cynnwys eDiwtorial, {develp}, dysgu cyfunol ac unrhyw dechnoleg a ddefnyddiwch yn ystod neu du allan i’ch gwersi i gefnogi eich dysgu.

Mae gan y tîm TEL yn CAVC sawl cyfle y gallwch gymryd rhan ynddynt, yn cynnwys Makerspace. Ymhlith y llu o dechnolegau gwahanol, newydd a chyffrous i roi cynnig arnynt mae:

  • Teithio’r byd mewn Realiti Rhithwir (VR)
  • Roboteg a chodio
  • Modelu ac argraffu 3D
  • Creu fideos a defnyddio sgriniau gwyrdd ar gyfer cefndiroedd wedi’u personoli
  • Creu a chwarae eich gemau eich hun

Mae angen i unrhyw un sy’n frwd dros dechnolegau newydd ymweld â Makerspace. Gallwch ddod o hyd i’r tîm TEL yn ogystal â Makerspace ar drydydd llawr y Ganolfan Llwyddiant yng Nghampws Canol y Ddinas.

Cyfleoedd sydd ar gael i chi yr haf hwn!

Dyddiau Cyfoethogi Dysgu Drwy Dechnoleg (TEL)

Bydd y tîm yn cynnal dau ddiwrnod TEL ar y campws yr haf hwn y gallwch eu mynychu a chael blas ar rai o’r technolegau sydd ar gael ac i gymryd rhan mewn ychydig o gystadlaethau difyr gyda phensetiau a thalebau Amazon ymhlith y gwobrau.

Bydd gweithgareddau ar y diwrnod yn cynnwys:

  • Profiadau Realiti Rhithwir
  • Cynyrchiadau sain a gweledol
  • A chystadlaethau darlunio 2D a 3D, E-chwaraeon a Minecraft

Bydd y sesiynau dewisol hyn yn cael eu cynnal ar ddydd Iau 11 Awst 2022 ar ein Campws Canol y Ddinas a dydd Iau 18 Awst 2022 ar Gampws y Barri.
Darperir bwyd a diod.

Archebwch nawr i sicrhau eich lle!