10.45-12.45
Agorwyd REACH yng Nghaerdydd yn 2017, fel hwb canolog i ESOL - Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill - yn ein prifddinas. Mae’r gwasanaeth unigryw hwn yn darparu pwynt cyswllt canolog ar gyfer ESOL yn y rhanbarth, ac wedi cefnogi miloedd o unigolion ers ei lansio.
Gyda buddsoddiadau pellach a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae canolfannau REACH+ yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam yn barod i’w lansio. Bydd yr hybiau hyn yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer unrhyw un sydd eisiau mynediad at ESOL o fewn y cymunedau yn y dinasoedd hyn.
Law yn llaw â hyn, defnyddir yr hybiau REACH+ fel sylfaen ar gyfer cynllun arloesol newydd ReStart, sydd yn cynnig cymorth cyfannol i ffoaduriaid. Ariannir ReStart gan Gronfa Integreiddio Ymfudiad Llocheswyr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y lansiad swyddogol, a gynhelir yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, yn cydnabod effaith y buddsoddiad hwn ar gynnydd mewn dysgu oedolion a chefnogi ein cymuned ffoaduriaid yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys anerchiadau gan Kirsty Williams, Gweinidog dros Addysg, a Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip; trosolwg ar sut y bydd REACH+ a ReStart yn gweithio a’r effaith ar ein cymunedau, yn ogystal â’r cyfle i weld REACH+ Caerdydd ar waith gan siarad â staff a’r rheiny sydd yn defnyddio’r gefnogaeth.