Byddwch yn astudio’r Diploma Lefel 1 mewn sgiliau Adeiladu. Rhaid ichi gyflawni cyfanswm o 37 credyd drwy weithio ar ystod o unedau gan gynnwys sgiliau Plastro, Teilsio a Phaentio ac Addurno
Bydd rhai o’r unedau astudio’n cynnwys,
Rhaid i ymgeiswyr fod â thri TGAU A* - G gan gynnwys mewn Mathemateg a Saesneg. Mae angen i’r ymgeiswyr fynychu noson wybodaeth hefyd. PPE / Offer sydd ei angen i astudio: esgidiau diogelwch, dillad gwaith neu oferôls i newid ar gyfer sesiynau ymarferol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gall myfyrwyr symud ymlaen i gwrs sylfaen mewn Plastro neu Deilsio neu mewn Plastro a Phaentio