Mae’r cwrs pwrpasol hwn wedi’i ddylunio ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed sydd mewn perygl o beidio bod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r cwrs yn darparu amgylchedd cefnogol, seiliedig ar gymuned i leddfu pryderon yn ymwneud ag addysg draddodiadol.
Wedi’i deilwra ar gyfer anghenion pob dysgwr, mae’n meithrin hyder a sgiliau allweddol drwy sesiynau difyr, gwirfoddoli a phrofiad gwaith i gyd-fynd â’u dyheadau.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y cyrchfan, gyda’r nod o ail-gyflwyno dysgwyr i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae ei ddull unigryw yn blaenoriaethu hyblygrwydd, profiad bywyd go iawn a datblygiad personol, gan sicrhau bod pob person ifanc yn cael y sgiliau a’r cymhelliant sydd eu hangen ar gyfer eu dyfodol.
Trwy feithrin gwydnwch ac uchelgais, mae’r cwrs hwn yn cynnig carreg gamu hanfodol tuag at lwyddiant hirdymor.
Mae'r Rhaglen Dyfodol Newydd yn gwrs heb ei achredu sy’n canolbwyntio ar y person, wedi’i ddylunio i gefnogi dysgwyr gydag anawsterau dysgu cymedrol a/neu heriau cymdeithasol ac ymddygiad. Yn dilyn y cwricwlwm RARPA, mae sesiynau wedi’u teilwra ar gyfer anghenion a diddordebau unigol, ac yn cynnwys pedwar prif faes.
Iechyd a Llesiant - Mae pynciau’n cynnwys cynnal iechyd, diogelwch personol, gwydnwch, strategaethau ymdopi a gweithgarwch corfforol. Mae dysgwyr yn arbrofi gyda byw yn iach, diogelu a hunan ymwybyddiaeth.
Cyflogadwyedd - Yn canolbwyntio ar sgiliau galwedigaethol, ymddygiad yn y gweithle, gwaith tîm, ceisiadau swydd a thechnegau cyfweliad i baratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth.
Cymuned (Cynhwysiant) - Yn annog cyfranogiad mewn gweithgareddau cymunedol, sgiliau cymdeithasol, diogelwch ar y ffordd a chyfleoedd gwirfoddoli.
Byw’n annibynnol - Yn datblygu sgiliau bywyd ymarferol fel cyllidebu, rheoli amser, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, eirioli dros eich hun a gofal personol.
Mae’r rhaglen hyblyg hon yn grymuso dysgwyr i feithrin hyder, annibyniaeth a sgiliau bywyd allweddol ar gyfer eu dyfodol.
Bydd y cwrs yn cynnwys cynlluniau dysgu unigol a mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau personol a chyflawni amcanion personol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y cyrchfan, gyda’r nod o ail-gyflwyno dysgwyr i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.