Mae'r Dystysgrif Lefel 4 mewn Triniaethau Laser a Golau Pwls Dwys (IPL) yn gymhwyster sy'n gysylltiedig â galwedigaeth ac sy’n ffocysu ar leihau tyfiant gwallt ac adnewyddiad delwedd y croen gan ddefnyddio triniaethau golau a laser dwys.
Yn y cymhwyster hwn byddwch yn datblygu dealltwriaeth o reoli ymarferion gwaith diogel a sut i adnabod a rheoli peryglon. Byddwch hefyd yn dysgu sut i nodi cyflyrau gwallt a chroen ac adnabod y cleientiaid hynny sy'n addas ar gyfer triniaethau'r system golau a laser dwys.
Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau gwastad caeedig.
Asesiad parhaus yn cynnwys asesiadau ymarferol ac arholiadau.
Mae angen cyflawni’r prosiectau theori a osodir a’r arsylwadau ymarferol yn llawn er mwyn gorffen y cwrs.
Ffi Arholiad : £116.00
Ffi Cwrs: £200.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â chymhwyster Lefel 3 mewn Harddwch. Mae’n rhaid i hwn gynnwys yr uned Triniaethau Trydanol
ar Wyneb. Tystiolaeth o Ardystiad yn ofynnol a chyfweliad llwyddiannus a CV (Curriculum Vitae) cyfredol angen ei ddarparu cyn y mae eich cofrestriad yn cael ei gymeradwyo. Addas ar gyfer Therapyddion sy’n gweithio o fewn y Diwydiant Harddwch ar hyn o bryd, sy’n dymuno ehangu eu sgiliau presennol neu eu busnes.
"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”