Tystysgrif VTCT mewn IPL (triniaeth laser ar gyfer adfywio'r croen a thynnu blew) Lefel 4 Rhan Amser
Ynglŷn â'r cwrs
Mae'r Dystysgrif VTCT Lefel 4 mewn Laser a Golau ar gyfer Triniaethau Gwaredu Gwallt neu Ieuangu Croen (QCF) yn uwch gymhwyster sydd wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer therapyddion harddwch. Mae'r cymhwyster hwn ar sail Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol therapi harddwch (NOS). Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gymeradwyo ac yn cael ei gefnogi gan Awdurdod y Diwydiant Trin Gwallt a Harddwch (HABIA), y corff gosod safonau ar gyfer cymwysterau gwallt, harddwch, ewinedd a sba.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwylliannau sy'n gysylltiedig â harddwch
Triniaethau laser a golau ar gyfer gwaredu gwallt
Triniaethau laser a golau ar gyfer ieuangu croen
Rheoli iechyd a diogelwch yn y salon
Byddwch yn gweithio gyda'n peiriant Skyncare Biocare-one
http://www.skyncare.co.uk/biocare-one.html
Cewch hefyd gyngor ynglŷn â sut i gofrestru eich gwasanaethau gydag Arolygaeth Iechyd Cymru
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Arholiad : £56.00
Ffi Cwrs: £794.00
Ffioedd Cwrs Rhan Amser : £30.00
Addysgu ac Asesu
- Asesiad parhaus gan gynnwys asesiadau ymarferol ac arholiadau
Pwyntiau pwysig
- Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
- Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
- Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
- Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
- Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gofynion mynediad
Rhaid i bob ymgeisydd fod â chymhwyster Harddwch Lefel 3
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rwyf wedi mwynhau gwneud gwallt a harddwch ers pan oeddwn i'n ifanc iawn. Drwy gysylltiadau un o fy nhiwtoriaid, cefais swydd yn gweithio mewn sba. Mae'r sgiliau ymarferol yr wyf wedi'u hennill wrth astudio yn CAVC wedi bod yn anhygoel.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu