Mynediad Galwedigaethol

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cyrsiau poblogaidd Mynediad Galwedigaethol yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau, eich cymwysterau a darganfod beth rydych yn ei fwynhau. Bwriad hyn yw y gallwch symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y coleg neu i gyflogaeth.

Bydd gennych fynediad i sesiynau cwrs sydd yn canolbwyntio ar yrfa mewn gwagleoedd arbenigol CCAF gydag arbenigwyr pwnc i ddarganfod beth ydych yn ei fwynhau a ble’r ydych yn rhagori. Byddwn wedyn yn eich helpu i adeiladu’r sgiliau sydd angen i chi gynyddu ym maes eich diddordeb.

Ar y cwrs byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau grwˆp a briffiau byw gyda chyflogwyr, teithiau, ymweliadau neu leoliadau gwaith. Rydych hefyd yn parhau i ddatblygu eich sgiliau Saesneg a Mathemateg. Bydd rhai myfyrwyr yn dewis ail-sefyll eu harholiadau TGAU yn y pynciau hyn ar yr un pryd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ymuno â’r cwrs

Sut mae dechrau ar y cwrs?

  1. Ar frig y dudalen mae opsiwn i astudio’r cwrs yng Nghaerdydd, y Barri neu Ddwyrain Caerdydd. Dewiswch y campws yr hoffech astudio arno a chliciwch y botwm pinc Ymgeisiwch Nawr.
  2. Llenwch ein proses gais ar-lein.
  3. Ar ôl ymgeisio cewch wahoddiad i ddod i mewn am Ddiwrnod Profiad, lle byddwch yn cwrdd ag athrawon a dysgwyr eraill. Ar ôl y diwrnod hwnnw, byddwn yn penderfynu pa lwybr yw’r llwybr delfrydol i chi ei ddilyn pan fyddwch yn dechrau yn CCAF.
  4. Ar ôl cael eich rhoi ar gwrs cewch wahoddiad i ymrestru ar eich cwrs ac yn derbyn dyddiad diwrnod cyntaf eich tymor a’ch amserlen.
  5. Yna, rydych yn fyfyriwr CCAF.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Eich CCAF

Rydym yn cynnig cymorth lles cynhwysol trwy gydol eich amser yn y coleg er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn cymorth ac yn gallu ffynnu yn academaidd ac yn bersonol. Pan fod angen cyngor, rhywun i wrando, neu adnoddau i reoli straen, mae’n tîm penodedig yma gyda chefnogaeth a chymorth i’ch helpu i aros yn gytbwys ac â ffocws yn ystod eich astudiaethau.

Eich Dyfodol

Mae cwrs Mynediad Galwedigaethol yn ddechrau ffres ac yn arweiniad at symud tuag at y llwybr gyrfa sydd orau i chi. Wedi cwblhau Mynediad Galwedigaethol mae myfyrwyr wedi symud ymlaen at gyrsiau Lefel 1 a Lefel 2 ar draws CCAF gan gynnwys TG, Adeiladu, Gwallt a Harddwch, Chwaraeon, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Celf a Dylunio a llawer mwy! Mae rhai myfyrwyr hefyd yn ail-sefyll eu TGAU Saesneg neu Fathemateg tra ar gwrs Fynediad Galwedigaethol – sydd yn helpu yn fawr gydag ateb anghenion dilyniant.

Mwy...

Fideos

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL