Mae ein cyrsiau poblogaidd Mynediad Galwedigaethol yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau, eich cymwysterau a darganfod beth rydych yn ei fwynhau. Bwriad hyn yw y gallwch symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y coleg neu i gyflogaeth.
Bydd gennych fynediad i sesiynau cwrs sydd yn canolbwyntio ar yrfa mewn gwagleoedd arbenigol CCAF gydag arbenigwyr pwnc i ddarganfod beth ydych yn ei fwynhau a ble’r ydych yn rhagori. Byddwn wedyn yn eich helpu i adeiladu’r sgiliau sydd angen i chi gynyddu ym maes eich diddordeb.
Ar y cwrs byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau grwˆp a briffiau byw gyda chyflogwyr, teithiau, ymweliadau neu leoliadau gwaith. Rydych hefyd yn parhau i ddatblygu eich sgiliau Saesneg a Mathemateg. Bydd rhai myfyrwyr yn dewis ail-sefyll eu harholiadau TGAU yn y pynciau hyn ar yr un pryd.
Sut mae dechrau ar y cwrs?
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.