Drwy astudio'r diploma technegol blwyddyn o hyd hwn, bydd myfyrwyr yn cael cyflwyniad manwl i grefft cynhyrchu cyfryngau yn seiliedig ar lens, a chipolwg ar y diwydiant cyfryngau.
Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau defnyddio camerâu a meddalwedd ôl-gynhyrchu gradd broffesiynol, gweithio ar friffiau a arweinir gan y diwydiant a chael cipolwg ar gwmnïau cyfryngau gwahanol, eu strwythur gweithredol ac yn dyfeisio ac yn datblygu eu prosiectau eu hunain yn seiliedig ar gyfryngau.
Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i ddysgwyr weithio ar friffiau wrth ganolbwyntio ar eu datblygiad proffesiynol personol eu hunain, a'r meysydd sydd o ddiddordeb iddynt. Gall myfyrwyr ddewis arbenigo mewn naill ai cynhyrchu ffilm ddogfen neu ffuglen.
Bydd angen i fyfyrwyr hunan-reoli eu prosiectau eu hunain, gweithio’n gydweithredol ac ymgysylltu â chleientiaid allanol a phersonél diwydiant.
Mae modd symud ymlaen i gyflogaeth diwydiant, gweithio'n llawrydd neu ddechrau cwrs prifysgol.
Mae'r cwrs hwn cyfwerth â blwyddyn gyntaf o raglen BA brifysgol ac mae'n werth 120 o gredydau Prifysgol. Er y gall atgyfnerthu eich portffolio a chynnig profiad amhrisiadwy, nid yw'n darparu pwyntiau UCAS ac o ganlyniad ni ellir ei ddefnyddio i ategu gofynion UCAS ar gyfer ceisiadau prifysgol.
Nid oes unrhyw ffioedd cwrs, felly nid yw'n gymwys ar gyfer benthyciadau cynhaliaeth cyllid myfyrwyr. Mae'n ofynnol bod myfyrwyr yn gallu cynnal eu hunain yn ariannol drwy gydol y cwrs.
Uned 1: Sefydlu egwyddorion ymarfer technegol a chynhyrchu
Uned 2: Ymarfer proffesiynol cymhwysol
Uned 3: Prosiect datblygiad proffesiynol. Mae'r asesiad yn seiliedig ar bortffolio.
Bydd myfyrwyr yn dysgu drwy gyfres o weithdai ymarferol, darlithoedd gan weithwyr proffesiynol o'r diwydiant ac asesiadau'n seiliedig ar brosiect.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Drwy ddilyn y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn cael portffolio o waith a fydd yn eu galluogi nhw i wneud cais i ddilyn cwrs prifysgol ar amrywiaeth o lwybrau, o gynhyrchu ffilmiau i ffotograffiaeth, astudiaethau cyfryngau a marchnata. Fel arall, bydd myfyrwyr yn meithrin y sgiliau i lunio gyrfa lawrydd, neu gael gwaith o fewn y diwydiant.