Mae ein cymhwyster Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3 yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant neu bobl ifanc mewn ysgolion cynradd, uwchradd neu ysgolion arbennig. Yn cwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys datblygiad plant a phobl ifanc, gan ddiogelu eu lles a'u cyfathrebu. Mae'r Dystysgrif Lefel 3 hon yn addas i unrhyw un sy'n gweithio mewn rôl heb oruchwyliaeth sy'n cynorthwyo dysgu'r disgyblion.
Mae 32 credyd yn ofynnol ar gyfer y Dystysgrif hon ac fe'i hasesir gan eich tiwtor neu asesydd gan ddefnyddio ystod o ddulliau. Gallai hyn gynnwys arsylwi uniongyrchol yn y gweithle, portffolio o dystiolaeth, aseiniadau ysgrifenedig neu dasg. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn gweithio, yn gwirfoddoli neu ar leoliad ymarferol gan fod angen i chi ddangos cymhwysedd yn y ddau: gwybodaeth a sgiliau. A fyddech cystal â nodi fod gofyn i fyfyrwyr / ymgeiswyr gynnal Gwiriad DBS (gwiriad heddlu) cyn dechrau unrhyw hyfforddiant galwedigaethol neu brofiad gwaith yn y Blynyddoedd Cynnar neu'r Maes Gofal. Cyfrifoldeb y myfyriwr fydd hyn.
Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00
Ffi Arholiad : £130.00
Ffi Cwrs: £695.00
Rhaid bod yn 18 oed neu'n hŷn. Tystysgrif Lefel 2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion. Lleiafswm o Lefel 1 mewn Llythrennedd a Rhifedd. Lleoliad addas a DBS boddhaol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu Mewn Ysgolion. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn dilyn cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant, gan gynnwys: