Mae'r cwrdd hwn wedi ei ddylunio ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn dod yn gymhorthydd addysgu mewn un ai amgylchedd ysgol neu goleg. Mae'r cwrs yn gyfuniad o ddysgu seiliedig ar waith a'r ystafell ddosbarth ac yn cynnwys rhai oriau o brofiad gwaith gorfodol.
Bydd yn ofynnol i ddysgwyr gael profiad gwaith mewn amgylchedd cefnogi dosbarth, gall y coleg gynorthwyo dysgwyr gyda hyn drwy ddarparu cyfleoedd profiad gwaith mewn dosbarthiadau ôl-16 yn y Coleg.
Bydd unrhyw ddysgwr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn cael cynnig cyfweliad am unrhyw swydd cymorth i ddysgwr addas sydd ar gael yn y Coleg.
Mae'r cymhwyster Lefel 2 Cefnogi Addysgu a Dysgu wedi ei ddylunio i ddarparu dealltwriaeth i ddysgwyr o'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchedd ysgol a choleg. Mae'n ymdrin ag ystod eang o feysydd yn cynnwys datblygiad plant a phobl ifanc, cefnogi ymddygiad cadarnhaol plant a phobl ifanc a chyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol.
Byddwch hefyd yn dysgu am gymorth ALN - mae'r cymhwyster hwn yn darparu'r cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ynghylch cynorthwyo unigolion gydag anableddau dysgu. Mae wedi ei anelu at ddysgwyr sy'n cynorthwyo unigolion gydag anableddau dysgu fel rhan o'u swydd.
3 TGAU A*-C mewn Iaith Saesneg neu Cymreag Gwaith, D mewn Mathemateg (rhifedd heb ei dderbyn). Bydd angen gwiriad DBS cyn y gallwch ddechrau eich lleoliad.
Cymhwyster Lefel 2 - TGAU neu gyfwerth mewn Saesneg Iaith.
Bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y profiad gwaith.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Mae fy nhiwtoriaid wedi bod mor gefnogol a hyfryd. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, rwy’n gobeithio symud ymlaen i’r brifysgol i ddod yn athrawes ysgol gynradd gymwys.”
Gallwch barhau i symud ymlaen mewn Addysg i gymhwyster lefel 3, neu ymuno â'r gweithlu fel cymhorthydd Addysgu.