Cynorthwyo mewn Ysgolion Fforest

L2 Lefel 2
Rhan Amser
4 Mawrth 2025 — 1 Gorffennaf 2025
Neuadd Llanrhymni

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn wedi ei gynllunio ar gyfer athrawon, cymorthyddion dosbarth, darparwyr gofal plant ac addysgwyr sydd â diddordeb mewn hyrwyddo ysgolion Fforest, cynaliadwyedd ac addysg awyr agored a'u rhoi ar waith.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn astudio sut i greu ysgol fforest, meysydd datblygiad plant, damcaniaeth addysgol, cadwraeth coetir a hamdden, damcaniaeth therapiwtig ac arloesol yn yr awyr agored, asesiadau risg i alluogi addysg awyr agored, cyfrifoldebau cyffredin, coginio mewn pydew tân a chymorth cyntaf.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Ffi Cwrs: £96.00

Ffi Arholiad : £31.50

Gofynion mynediad

Dymunol – cymhwyster gofal plant, addysgu neu gefnogi addysgu a dysgu.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Mawrth 2025

Dyddiad gorffen

1 Gorffennaf 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Neuadd Llanrhymni
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CRLH2P10
L2

Cymhwyster

Agored Cymru Level 2 Award in Assisting Forest School

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i ddilyn:

  • Cwrs ysgol fforest Lefel 3
  • Cymhwyster gofal plant
  • Cymhwyster cefnogi addysgu a dysgu

Lleoliadau

Neuadd Llanrhymni
Neuadd Llanrhymni

Ball Rd, 
Llanrumney, 
Caerdydd, 
CF3 4JJ