Asesu Cyflawniad Galwedigaethol (CAVA)

L3 Lefel 3
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Magwch y sgiliau i asesu’n hyderus gyda’r Dystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol (CAVA).

Mae’r Dystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol (CAVA), yn aml yn cael ei hadnabod fel TAQA neu A1, yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd wedi ei fwriadu ar gyfer unigolion sy’n chwilio i gamu i swydd asesydd sy’n asesu galluoedd galwedigaethol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a sgiliau galwedigaethol; gan gynnwys amgylcheddau hyfforddi, y dosbarth neu o fewn y gweithle.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer addysgwyr galwedigaethol, goruchwylwyr gweithleoedd, gweithwyr proffesiynol dysgu a datblygu neu aseswyr uchelgeisiol. 

Cliciwch ar yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno a’i asesu drwy gyfuniad o ddysgu mewn dosbarthiadau, ar-lein ac o bell.

Pam Dewis y Cwrs Hwn?

  • Cwricwlwm Arloesol: Gyda’r anghenion diwydiant a’r arferion asesu diweddaraf yn sail i’r cwrs hwn, mae’n eich paratoi at lwyddiant o’r diwrnod cyntaf
  • Hyfforddwyr Arbenigol: Byddwch yn hyfforddi gyda thiwtoriaid arbenigol sydd â phrofiad go iawn a brwdfrydedd dros helpu eraill i lwyddo
  • Dysgu Hyblyg: Amserlen dysgu cyfunol i gyd-fynd â’ch bywyd prysur
  • Profiad Ymarferol: Enillwch sgiliau ymarferol drwy weithdai rhyngweithiol, adnoddau ar-lein difyr a chyfleoedd i ddangos eich sgiliau asesu mewn amser go iawn
  • Cymuned Gefnogol: Ymunwch â rhwydwaith o aseswyr o’r un anian i fagu hyder a datblygu eich gyrfa

Modiwlau

Trwy gydol eich cwrs, byddwch yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth i asesu medrusrwydd galwedigaethol a dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau galwedigaethol. Ymhlith y modiwlau mae:

  • Deall Egwyddorion ac Arferion asesiad.
  • Asesu Medrusrwydd Galwedigaethol yn yr Amgylchedd Gwaith.
  • Asesu Dealltwriaeth, Gwybodaeth a Sgiliau Galwedigaethol.

Asesu

I ennill y cymhwyster hwn, bydd angen ichi gyflwyno portffolio o dystiolaeth ar ddiwedd y cwrs, arddangos gwybodaeth o asesiadau ac ymgymryd ag o leiaf pedwar asesiad gydag o leiaf dau ddysgwr arall wrth gael eich arsylwi.  

Bydd yr asesiad yn ymgymryd â dull cyfannol a bydd yn cynnwys adnabod dysgu blaenorol, tystiolaeth o’ch gwaith, tystiolaeth llygad-dystion, trafodaethau proffesiynol, astudiaethau achos, datganiadau dysgwyr/myfyriol ac arsylwadau o’ch ymarfer.

Byddwch yn derbyn arweiniad a chymorth parhaus gan eich tiwtor drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys yn ystod eich sesiwn diwtorial a hefyd dros e-bost, Microsoft Teams a ffôn. Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniad, portffolio o dystiolaeth a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.  

Bydd disgwyl ichi ymrwymo i gyflawni’r cymhwyster dros gyfnod o 6-12 mis a bydd angen ichi gael mynediad at y rhyngrwyd ac at liniadur. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSCAVA3P01
L3

Cymhwyster

Level 3 Certificate in Assessing Vocational Achievement (CAVA)

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE