Sbaen - TGAU

L2 Lefel 2
Rhan Amser
3 Medi 2024 — 28 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r cwrs TGAU Sbaeneg hwn yn gwrs dwys un flwyddyn.  Mae wedi ei anelu at ddechreuwyr heb ddim neu fawr ddim dealltwriaeth o’r iaith.  Bydd myfyrwyr yn ymarfer y pedair sgil iaith o ysgrifennu, siarad, gwrando a darllen ac fe’i hanogir i ddefnyddio’r iaith darged ble bynnag fo’n bosibl. 

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd y cynnwys a astudir yn cwmpasu'r cyd-destunau eang canlynol:

Bywyd Personol a Chymdeithasol

Y Gymuned Leol Byd Gwaith

Y Byd Ehangach    

Mae’r pwnc wedi ei rannu yn 4 uned:

Uned 1: Gwrando (20%)

Uned 2: Siarad (30%)

Uned 3: Darllen (20%)

Uned 4: Ysgrifennu (30%)

Asesir y sgiliau sgrifennu a siarad dan amodau a reolir yn ystod ysbeidiau rheolaidd trwy gydol y cwrs tra bod gwrando a darllen yn cael eu hasesu ar ddiwedd y cwrs.

Mae myfyrwyr yn cael eu cofnodi ar gyfer pob maes gallu ar yr haen fwyaf addas i'w lefel cymhwyster. Felly, gan ddechrau ar gryfderau a dewisiadau unigol, gallai unigolyn wneud gwrando lefel sylfaen gyda siarad a darllen lefel uwch er mwyn uchafu’r sgôr pwyntiau terfynol a gradd TGAU orau posibl.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £35.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Ffi Cwrs: £380.00

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion. Dylai myfyrwyr llawn amser fod ag isafswm o 4 TGAU Gradd D.

Amseroedd cwrs

17:45 - 20:45 Dydd Llun

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau parhaus

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

28 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

GCCC2E06
L2

Cymhwyster

CBAC TGAU Lefel 1/Lefel 2 mewn Sbaeneg

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE