Gweinyddiaeth Bywyd - Sgiliau'r Diwydiant Cerddoriaeth

L1 Lefel 1
Rhan Amser
5 Awst 2025 — 28 Awst 2025
East Moors
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Cyflwynir ein Diploma BTEC 90 Credyd mewn Technoleg Cerddoriaeth yng Nghanolfan Gymunedol East Moors yn Sblot, ac mae'n cynnwys tair prif elfen:

  • Cynhyrchu Cerddoriaeth
  • Cerddoriaeth yn y Gymuned
  • Rheoli Digwyddiadau

Wedi'u lleoli ar ein campws Allgymorth yng Nghaerdydd, bydd myfyrwyr yn dysgu am y diwydiant cerddoriaeth, sut i gynhyrchu trac, sut i gynnal gweithdai cerddorol yn y gymuned, a hefyd yn cael cyllideb i greu eu digwyddiad cerddorol eu hunain.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y myfyrwyr yn astudio nifer o fodiwlau gan gynnwys:

  • Technegau cynhyrchu cerddoriaeth
  • Y diwydiant sain a cherddoriaeth
  • Egwyddorion peirianneg sain
  • Cynhyrchu a llwyfannu cyngerdd
  • Rheoli digwyddiadau cerddorol
  • Marchnata a hyrwyddo
  • Cerddoriaeth yn y gymuned
  • Prosiect Cerddoriaeth
  • Creu a thrin sain

Gofynion mynediad

Ni cheir gofynion mynediad ffurfiol. Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hasesu mewn cyfweliad.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

5 Awst 2025

Dyddiad gorffen

28 Awst 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

12 awr yr wythnos

Lleoliad

East Moors
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

WPML1P01
L1

Cymhwyster

Ministry of Life Music and Video Taster Sessions

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i addysg bellach neu'r brifysgol. Bydd nifer o fyfyrwyr hefyd yn mynd i weithio mewn amrywiol gyfleoedd cyflogaeth o fewn y diwydiant.

Lleoliadau

East Moors
East Moors

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn Lleoliadau Cymunedol yng Nghaerdydd a’r Fro. Pan fyddwch yn gwneud cais am y cwrs byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am leoliad eich cwrs.