Bydd y cwrs yn cynnwys elfennau i'ch cynorthwyo i ddatblygu sgiliau creu cerddoriaeth, creu fideos a chwarae offerynnau'n fyw. Byddwch hefyd yn ennill profiad mewn peirianneg sain, DJ'io, hedfan drôn, recordio llais, cymysgu a chreu prif dapiau a marchnata cerddoriaeth.
Bydd modd i ddysgwyr ar y cwrs hwn wella eu sgiliau sylfaenol mewn Mathemateg, Saesneg a sgiliau Cyfathrebu, ynghyd â dysgu sut i greu cerddoriaeth a fideos a'u rhyddhau drwy rwydweithiau dosbarthu a'u hysbysebu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r cwrs yn cael ei gynnal 2 ddiwrnod yr wythnos ac yna'n mynd ymlaen i 4 diwrnod yr wythnos am 17 wythnos.
Modiwlau Gorfodol
Modiwlau Dewisol
Dylai'r ymgeiswyr fod rhwng 16-25 oed. Mae cyllid LCA, GDLlC a CAWG ar gael, a gallwch wneud cais i Gynllun Gwobr Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog er mwyn gwnned cais am grant offer hyd at £250. Gallwch wneud cais yn uniongyrchol drwy wefan CAVC, neu fel arall, cysylltwch â Tim ar 07502501277 / tim@moleducation.co.uk i ddysgu mwy am y cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ennill Cymhwyster Lefel 1 BTEC, a fydd yn rhoi'r hawl iddynt astudio unrhyw gwrs Lefel 2 yn CAVC yn y flwyddyn academaidd nesaf.