Trin Hydrocarbonau yn Ddiogel

L2 Lefel 2
Rhan Amser
28 Ionawr 2025 — 28 Ionawr 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer yr unigolion hynny sydd ynghlwm â chomisiynu, gosod, gwasanaethu a chynnal a chadw systemau pwmp rheweiddio, aerdymheru a gwresogi, ac yn cefnogi'r sgiliau hanfodol ar gyfer cyflogaeth/datblygiad yn y sector hwn sy'n parhau i dyfu wrth i ddefnyddwyr ofyn am systemau sy'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd.

Bydd y cwrs yn eich darparu â'r wybodaeth a sgiliau ymarferol sy'n ofynnol ar gyfer symud hydrocarbon ac oeryddion fflamadwy yn ddiogel (R600a/ R290 etc) wrth gynnal a chadw, gwasanaethu, gosod a chael gwared ar nwyddau.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae naw deilliant dysgu gorfodol fydd yn cael eu hastudio a'u hasesu:

  • Gofynion iechyd a diogelwch penodol sy'n berthnasol â gosod, gwasanaethu, cynnal a chadw a dadgomisiynu systemau hydrocarbon RAC.
  • Gweithdrefnau deddfwriaethol a sefydliadol ar gyfer gosod, gwasanaethu, cynnal a chadw a dadgomisiynu systemau hydrocarbon RAC.
  • Gwahaniaethau rhwng systemau RAC halocarbon a hydrocarbon.
  • Gweithdrefnau ar gyfer cynllunio a pharatoi ar gyfer gwaith ar systemau RAC hydrocarbon.
  • Gallu cynllunio a pharatoi ar gyfer gwaith ar systemau RAC
  • hydrocarbon
  • Gofynion penodol ar gyfer gosod a phrofi systemau RAC hydrocarbon.
  • Gwahaniaethau rhwng gwasanaeth halocarbon a hydrocarbon a gweithdrefnau cynnal a chadw.
  • Gallu gwasanaethu a chynnal a chadw systemau RAC hydrocarbon.
  • Gweithdrefnau dadgomisiynu ar gyfer systemau RAC hydrocarbon

Byddwch yn cael eich addysgu gyda chymysgedd o waith theori yn y dosbarth, ac elfennau ymarferol y cwrs mewn gweithdy RAC arbenigol.

Mae asesiad yn cynnwys papur aml-ddewis ac asesiad ymarferol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Ffi Cwrs: £182.00

Ffi Arholiad : £67.00

Gofynion mynediad

Argymhellir i ymgeiswyr fod yn beirianwyr profiadol sydd wedi arfer gweithio ar systemau sy'n cynnwys oeryddion hydrocarbon a fflamadwy. Rhaid bod yn brofiadol o safbwynt gweithio gyda systemau oeri ac aerdymheru. Dylai ymgeiswyr feddu ar ardystiad Nwy F cyn cofrestru ar y cymhwyster hwn. Dylai copïau o'r ardystiad Nwy F gael eu cyflwyno i'r ganolfan cyn mynychu.  

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

28 Ionawr 2025

Dyddiad gorffen

28 Ionawr 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

8 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

HPCC2P06
L2

Cymhwyster

City & Guilds Level 2 Award in Hydrocarbon Refrigeration, Air Conditioning and H

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

DB2,
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE