Rheoliadau Nwy-F ac ODS (Categori 1) - Dwys

L2 Lefel 2
Rhan Amser
24 Chwefror 2025 — 26 Chwefror 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Nod y cwrs Rheoliadau Nwy F ac ODS hwn (2079 - 11 Categori 1) yw darparu'r wybodaeth a’r sgiliau i'r ymgeisiwyr i weithio ar osod, gwasanaethu, cynnal a chadw, adfer a gwirio gollyngiadau o oergelloedd sefydlog, offer aerdymheru ac offer pwmp gwres sy’n cynnwys oergelloedd a ddosberthir naill ai fel nwyon wedi’u Fflworineiddio (F) neu Sylweddau sy’n disbyddu'r osôn (ODS).
Mae'r cymhwyster hwn yn gysylltiedig â’r gofynion cyfreithiol ac yn dangos sut i gadw, atal a lleihau allyriadau nwyon- F, a ymdrinnir â’r protocol Kyoto. Mae’n ofyniad cyfreithiol bod gan unrhyw un sy’n trin oeryddion nwy-F y cymhwyster 2079 perthnasol neu gymhwyster cyfatebol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd ymgeiswyr yn ennill sgiliau, gwybodaeth a thechnegau i:

  • Gwneuthuro a gosod cymal mecanyddol ac wedi’i sodro
  • Prawf pwysau a rhyddhau i BSEN378
  • Gwefru cyfuniad seotropic (e.e R404a), cynnal y system a gwirio cyflwr yr oergell
  • Cynnal gwiriad gweledol am ollyngiadau, asesu’r system yn anuniongyrchol am wefr isel a gollyngiadau gan ddefnyddio synhwyrydd gollyngiadau electronig
  • Ffitio a datgysylltu mesuryddion ar y system redeg gyda gwasanaeth a falfiau Schrader
  • Adfer yr oergell
  • Cynnal llyfrau log a chofnodion nwy-F
  • Trin oeryddion yn ddiogel a chael gwared ar sylweddau sydd wedi’u gwahardd yn gyfreithiol

Rhaid i ymgeiswyr fod yn brofiadol gyda chymhwyster cydnabyddedig hyd at o leiaf Lefel 2 yn y sector RACHP neu fod ag o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio yn y maes.
Asesir trwy Arholiad Ar-lein ac Asesiad Ymarferol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £71.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Ffi Cwrs: £514.00

Gofynion mynediad

4 TGAU Gradd A* - D, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg, gyda chyfweliad boddhaol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn brofiadol gyda chymhwyster cydnabyddedig hyd at o leiaf Lefel 2 yn y sector RACHP neu fod ag o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio yn y maes. Rhaid i chi allu sodro, gwefru ac adfer oergelloedd. Rydym yn cynnal cwrs 5 diwrnod ar gyfer peirianwyr dibrofiad.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

24 Chwefror 2025

Dyddiad gorffen

26 Chwefror 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

24 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

HPCC2P15
L2

Cymhwyster

50057303 City and Guilds Level 2 Award in F-Gas and ODS Regulations Category

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

DB2,
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE