Nod y cwrs 3 diwrnod PRINCE2® Sylfaenol yw cyflwyno gwybodaeth gynhwysfawr am fethodoleg rheoli prosiect i gyfranogwr. Bydd y cwrs helaeth yn galluogi ymgeiswyr i gymhwyso a theilwra egwyddorion, themâu a phrosesau PRINCE® er mwyn gwella cynhyrchedd a swyddogaeth sefydliadol prosiectau. Byddant hefyd yn dysgu am amryw o bynciau hanfodol, fel dulliau cyflwyno, saith thema, rolau tîm rheoli prosiect, disgrifiad cynnyrch prosiect, teilwra’r broses DP, ymgorffori PRINCE2®, a llawer mwy.
Erbyn diwedd y cwrs PRINCE2® Sylfaenol hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu dirprwyo goddefiannau ac adrodd cynnydd gwirioneddol a rhagweld cynnydd yn effeithiol. Byddant hefyd yn gallu paratoi’r dulliau rheoli risg, rheoli newid, rheoli ansawdd a rheoli cyfathrebiad yn brydlon.
Mae ennill yr ardystiad PRINCE2® hwn yn galluogi ymgeiswyr i ddangos a gwella eu hyfedredd rheoli prosiectau - gan gyfrannu at well graffter busnes a rhagolygon gyrfa.
Bydd yr ardystiad rhagarweiniol PRINCE2® hwn yn helpu ymgeiswyr i ddeall hanfodion methodoleg rheoli prosiect PRINCE2® a datblygu gwerthfawrogiad o’r cyfansoddion sy’n cyfrannu at lwyddiant prosiect - wedi’i ategu gan egwyddorion, prosesau a themâu PRINCE2®. Mae elfen sylfaenol y cwrs cyfunol yn para am 3 diwrnod. Yn ystod y cwrs, bydd ymgeiswyr yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o sut i weithio fel rhan o dîm PRINCE2®.
Cynhelir y cwrs 3 diwrnod hwn ar-lein, drwy Ddosbarth rhithiol, 9am- 5pm. Bydd angen cyfrifiadur/gliniadur gyda microffon a chamera arnoch.
Cynhelir y cwrs ar ddyddiau olynol. Bydd oriau astudio ychwanegol, bob nos yn eich amser eich hun
Ar ôl 3 diwrnod o astudio, bydd dysgwyr yn archebu eu harholiadau eu hunain ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.
RHAID trefnu arholiadau o fewn 30 diwrnod o'r cwrs
Llyfr Gwaith Paratoi ar gyfer Arholiad PRINCE2®
Mae’r llyfr gwaith paratoi ar gyfer yr arholiad yn sicrhau a’n gwirio eich bod â’r wybodaeth a’r hyder i lwyddo yn eich arholiad.
Mae’r llyfr gwaith paratoi ar gyfer yr arholiad hwn yn cynnwys cwestiynau ffug, prosiectau sy’n seiliedig ar senarios perthnasol, ac mae’n adnabyddus am wella marciau llwyddo ymhellach. Noder, mae’r llyfr gwaith paratoi ar gyfer yr arholiad, a chyfarwyddiadau ynghylch sut i drefnu eich arholiad, ar gael yn eich Cyfarwyddiadau Ymuno, yr ydych yn eu derbyn ar ôl ymrestru. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cwblhau’r llyfr gwaith cyn sefyll yr arholiad, er mwyn gwella eich gobaith o lwyddo.
Mae’r arholiad Sylfaenol PRINCE2® yn canolbwyntio ar wybodaeth am PRINCE2® fel methodoleg.
Math o Gwestiynau: Amlddewis.
Cyfanswm y Cwestiynau: 60.
Nifer y marciau: 60 marc, gyda phob cwestiwn yn werth 1 marc.
Marc llwyddo: 55%, neu 33/60.
Hyd: 60 Munud.
A yw deunyddiau wedi’u caniatáu: Na, mae hwn yn arholiad ‘llyfr caeedig’.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.