PRINCE2 Agile Sylfaenol (PLA)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
31 Gorffennaf 2025 — 31 Gorffennaf 2026
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

PRINCE2 Agile® yw’r datrysiad rheoli prosiect Agile mwyaf cyflawn yn y byd, yn cyfuno hyblygrwydd ac ymatebolrwydd Agile gyda llywodraeth PRINCE2®. Mae PRINCE2 Agile yn cynnig strwythur, llywodraeth a rheolaethau wrth weithio gyda chysyniadau, dulliau a thechnegau Agile. Wedi’i gynllunio i helpu gweithwyr proffesiynol i deilwra rheolaethau rheoli wrth weithio mewn amgylchedd hyblyg.

Mae’r cwrs Ardystiad Sylfaenol PRINCE2 Agile® hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n cyflwyno, rheoli neu’n gweithio gyda thimau prosiect a phrosiectau hyblyg. Mae'r cwrs hyfforddiant hwn hefyd wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn amgylchedd hyblyg, fel:

  • Meistri Scrum
  • Hyfforddwyr Agile
  • Perchnogion Cynnyrch a Rheolwr Cynnyrch
  • Aelodau Tîm Cyflwyno

Bydd cynrychiolwyr yn trefnu dyddiadau dechrau cwrs yn uniongyrchol gyda darparwr y cwrs ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo i gael cyllid.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae PRINCE2 Agile Sylfaenol wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n newydd i PRINCE2 ac sy’n gweithio mewn amgylchedd prosiect hyblyg, neu mewn perthynas ag amgylchedd o’r fath.

Mae’r cwrs hwn yn mynd i’r afael â throsolwg o PRINCE2, yn cyflwyno Agile, a sut i gymhwyso’r ddau gyda’i gilydd.

Addysgu ac asesu

Cynhelir y cwrs 3 diwrnod hwn ar-lein, drwy Ddosbarth rhithiol (9:00am - 5:00pm). Bydd angen cyfrifiadur/gliniadur gyda microffon a chamera arnoch. 
Cynhelir y cwrs ar ddiwrnodau olynol. Bydd oriau astudio ychwanegol, bob nos yn eich amser eich hun 
Ar ôl 3 diwrnod o astudio, bydd dysgwyr yn archebu eu harholiadau eu hunain ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.
RHAID trefnu arholiadau o fewn 30 diwrnod o'r cwrs

Llyfr Gwaith Paratoi ar gyfer Arholiad PRINCE2® Agile.
Mae’r llyfr gwaith paratoi ar gyfer yr arholiad yn sicrhau a’n gwirio eich bod â’r wybodaeth a’r hyder i lwyddo yn eich arholiad.
Mae’r llyfr gwaith paratoi ar gyfer yr arholiad hwn yn cynnwys cwestiynau ffug, prosiectau sy’n seiliedig ar senarios perthnasol, ac mae’n adnabyddus am wella marciau llwyddo ymhellach. Noder, mae’r llyfr gwaith paratoi ar gyfer yr arholiad, a chyfarwyddiadau ynghylch sut i drefnu eich arholiad, ar gael yn eich Cyfarwyddiadau Ymuno, yr ydych yn eu derbyn ar ôl ymrestru. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cwblhau’r llyfr gwaith cyn sefyll yr arholiad, er mwyn gwella eich gobaith o lwyddo.

Mae’r arholiad PRINCE2® Agile Sylfaenol yn canolbwyntio ar wybodaeth am PRINCE2® fel methodoleg.
Math o Gwestiynau: Amlddewis.
Cyfanswm y Cwestiynau: 60.
Nifer y marciau: 60 marc, gyda phob cwestiwn yn werth 1 marc.
Marc llwyddo: 55%, neu 33/60.
Hyd: 60 Munud.
A yw deunyddiau wedi’u caniatáu: Na, mae hwn yn arholiad ‘llyfr caeedig’.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

31 Gorffennaf 2025

Dyddiad gorffen

31 Gorffennaf 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

21 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSPRINC2AF
L3

Cymhwyster

Prince2 Agile foundation (PLA)