Mae’r cwrs hwn yn darparu gwybodaeth lefel sylfaenol ar ddiogelwch, cydymffurfiaeth, a chysyniadau hunaniaeth a ddarganfyddir yng ngwasanaethau cwmwl Microsoft. Dylai’r gynulleidfa fod yn gyfarwydd â Microsoft Azure a Microsoft 365. Cyn mynychu’r cwrs hwn, rhaid i fyfyrwyr feddu ar:
· Ddealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau rhyngweithio a chyfrifyddu cwmwl.
· Wybodaeth TG sylfaenol neu unrhyw brofiad o weithio mewn amgylchedd TG.
· Dealltwriaeth sylfaenol o Microsoft Azure a Microsoft 365.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o:
· Gysyniadau diogelwch, cydymffurfiaeth a hunaniaeth.
· Alluoedd Microsoft Entra.
· Alluoedd datrysiadau diogelwch Microsoft.
· Alluoedd datrysiadau cydymffurfiaeth Microsoft
Dylai ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â Microsoft Azure a Microsoft 365 ac yn awyddus i ddeall sut y gall datrysiadau diogelwch, cydymffurfiaeth a hunaniaeth Microsoft ledu ar draws y meysydd datrysiad hyn i ddarparu datrysiad cyfannol, o’r dechrau i’r diwedd. Cyn mynychu’r cwrs hwn, rhaid i fyfyrwyr feddu ar:
Ddealltwriaeth gyffredinol o gysyniadau rhyngweithio a chyfrifyddu cwmwl.
Gwybodaeth TG gyffredinol neu unrhyw brofiad cyffredinol o weithio mewn amgylchedd TG.
Dealltwriaeth gyffredinol o Microsoft Azure a Microsoft 365.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae galw uchel am y swyddi hyn ar draws nifer o ddiwydiannau, yn cynnwys cyllid, gofal iechyd, technoleg a mwy.