Gwregys Melyn Lean Six Sigma (PLA)

L2 Lefel 2
Rhan Amser
Cysylltwch â ni ar gyfer y Dyddiadau Dechrau
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hyfforddi Gwregys Melyn Lean Six Sigma wedi ei ddatblygu ar gyfer unrhyw unsy’n gweithio mewn Rheoli Prosiect ar hyn o bryd. Pwrpas y cwrs hyfforddi Gwregys Melyn Lean Six Sigma yw cynorthwyo pob gweithiwr i ychwanegu gwerth i’w busnes drwy adnabod a datrys meysydd i’w gwella.  

Mae Lean Six Sigma yn cynnig y gorau o’r fethodoleg Lean a Six Sigma, gan gynorthwyo i safoni gwaith, dileu gwastraffa chamgymeriadau, gwella bodlonrwydd cwsmer, a chynorthwyo’r busnes i ddod yn fwy proffidiol.

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Maes Llafur Gwregys Melyn Lean Six Sigma

Mae’r cwrs hyfforddi Lean Six Sigma hwn yn cynnwys 2 ddiwrnod o hyfforddiant ystafell ddosbarth a cyn cynnwys deunyddiau hyfforddi cynhwysfawr, arholiad a’ch tystysgrif. Byddwn hefyd yn eich cofrestru ar y CEPAS cyhoeddus o bobl broffesiynol ardystiedig Lean Six Sigma.

Drwy gydol ein cymhwyster Gwregys Melyn CEPAS, byddwch yn ymdrin â’r pynciau isod: 

Diwrnod 1 

  •  Hanfodion egwyddorion Lean Six Sigma
  •  Buddion cyfuno’r ddau ddull unedig
  •  Methodoleg DMAIC
  •  Meini prawf targedu prosiect
  •  Beth sy’n gwneud prosiect Lean Six Sigma da?
  •  Cysyniadau ac offer Lean Six Sigma
  •  Elfennau allweddol trawsnewid Lean llwyddiannus
  •  Dewis Prosiect
  •  Rôl y Tîm

Diwrnod 2 

  •  Llais y Cwsmer (LlyC)
  • Mapio Llif Gwerth
  •  Gwerth Ychwanegol yn erbyn Diffyg Gwerth Ychwanegol
  • Dadansoddiad o Brif Achos
  • Diagramau Asgwrn Pysgodyn
  • Llif Lean a Chelloedd Gwaith
  •  5S (Sort, Straighten, Shine, Standardise a Sustain yn Saesneg)
  • Offer gweledol
  •  Capasiti a Rhwystrau
  •  Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn gallu: 
  •  Rhestru’r offer sylfaenol ac egwyddorion sy’n dylunio’r model gwella Lean Six Sigma
  •  Adnabod cyfleoedd i wella proses
  •  Diffinio amcanion gwella prosiect.
  •  Nodi sut i gynllunio ar gyfer cynnal casglu data i ddangos prif achosion.
  •  Disgrifio sut i ddilysu prif achosion problemau proses
  •  Rhestru sut i weithredu technegau a chysyniadau gwelliant syml ond effeithiol.
  •  Nodi sut i gynnal y cynnydd mewn gwelliannau proses.

Addysgu ac asesu

Cynhelir y cwrs 2 diwrnod hwn ar-lein drwy ystafell ddosbarth rhithiol, 9am- 6pm ar ddydd Llun a dydd Mawrth. 

Bydd angen cyfrifiadur/gliniadur gyda microffon a chamera arnoch.

Manylion Arholiad Gwregys Melyn

Fformat arholiad - Amlddewis, Ar-lein, arholiad dan oruchwyliaeth.

Hyd - 30-munud.

Nifer y cwestiynau - 32.

Marc pasio - 24/32 (65%).

Llyfr agored - Na.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni ar gyfer y Dyddiadau Dechrau

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

14 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSL84Y
L2

Cymhwyster

Lean Six Sigma Yellow Belt (ISO18404) (PLA)

Mwy...

Fideos