Bwriad y cwrs deuddydd hwn yw cynorthwyo rheolwyr a goruchwylwyr o unrhyw sector busnes/diwydiant i ddeall y goblygiadau strategol a gweithredol arnynt hwy, ar eu tîm ac ar eu hadran mewn perthynas â chynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd y cwrs yn eich galluogi i gyfannu at wella cynaliadwyedd eich sefydliad ac mae’n ddelfrydol ar gyfer uwchsgilio eich tîm a’r rhai sy’n goruchwylio amcanion gweithredol.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
ISEP (y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol) yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y maes amgylcheddol a’r maes cynaliadwyedd. Mae ISEP yn gyfrifol am sicrhau bod pobl sy’n gweithio yn rheng flaen y meysydd hyn yn meddu ar yr wybodaeth, y cymwyseddau, y sgiliau a’r hyder priodol i fynd i’r afael â swydd broffesiynol. Hefyd, mae ISEP yn helpu ac yn cynorthwyo busnesau, llywodraethau a rheoleiddwyr i wneud y pethau iawn mewn perthynas â mentrau, heriau a chyfleoedd sy’n ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar lefel weithredol ac sy’n awyddus i ddilyn gyrfa’n ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd. Byddwch yn gweithio yn y maes rheolaeth amgylcheddol neu’r maes cynaliadwyedd a byddwch angen gwybodaeth fanwl am egwyddorion amgylcheddol a chynaliadwyedd, dulliau rheoli a sgiliau eraill er mwyn esgor ar newid cadarnhaol mewn modd effeithiol.
Gan gydweddu â’r cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer Aelodaeth Ymarferwr ISEP, bydd y cwrs hwn yn berffaith i’r rhai sy’n dymuno uwchraddio’u haelodaeth ISEP i Lefel Ymarferwr ac Ymarferwr Amgylcheddol Cofrestredig (REnvP).
Mae ffi’r cwrs yn cynnwys aelodaeth blwyddyn a fydd yn dechrau ar ôl cofrestru. Yn ystod y cwrs, byddwch yn Ymgeisydd am Aelodaeth Ymarferwr, ac ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn cael eich gwahodd i gamu ymlaen â’ch cais am Aelodaeth Ymarferwr (bydd REnvP yn costio mwy).
Beth fyddwch yn ei ddysgu?
Dros dri modiwl, bydd modd i’r dysgwyr sy’n dilyn y cwrs hwn wneud y canlynol:
Sut y byddwch yn dysgu?
Dyma gwrs 15 diwrnod (120 awr) a gyflwynir ar-lein. Cyflwynir ein cyrsiau gan hyfforddwyr cymwys a aseswyd gan ISEP i sicrhau ansawdd.
Sut y byddwch yn cael eich asesu?
Ceir tri aseiniad sy’n seiliedig ar wybodaeth ac un asesiad cymwyseddau a ddylai roi enghreifftiau o’r modd y rhoddwyd yr wybodaeth a ddysgwyd drwy gydol y cwrs ar waith yn ymarferol yn y gweithle. Ar ôl cwblhau eich asesiad yn llwyddiannus, cewch dystysgrif ddigidol i gydnabod eich llwyddiant a chewch fanylion ynglŷn â sut i ymuno efo IEMA fel Aelod Ymarferydd, ynghyd â gwybodaeth am eich ôl-ddodiad PISEP proffesiynol a manylion am yr holl fuddion eraill a ddaw law yn llaw ag aelodaeth o gorff proffesiynol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.