Archwilio a Phrofi Offer Trydanol sydd mewn Defnydd (PAT)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
5 Mawrth 2026 — 21 Mai 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Byddwch yn ennill achrediad/ardystiad Profi Offer Cludadwy City and Guilds ar ôl cwblhau'r cwrs hwn.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'n rhaid i ymgeiswyr:
1. Cwblhau un prawf amlddewis ar-lein yn llwyddiannus ar gyfer pob uned orfodol
2. Cwblhau un prawf ymarferol yn ymdrin â deilliant dysgu 7 yn yr archwiliadau a phrofion offer trydanol sydd mewn defnydd yn llwyddiannus.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £100.00

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £0.00

Gofynion mynediad

Disgwylir bod ymgeiswyr sy’n ceisio am y cwrs yn gyfarwydd â systemau trydanol a pheryglon trydan er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

5 Mawrth 2026

Dyddiad gorffen

21 Mai 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

EECC3P04
L3

Cymhwyster

In-Service Inspections and Testing of Electrical Equipment (PAT)

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Fe ddewisais astudio yn y Coleg oherwydd y cyfleusterau sydd yno ac oherwydd i mi glywed cymaint o bethau da am y Coleg yn lleol. Rwyf wedi mwynhau datblygu fy sgiliau yn y gweithdai, gwneud ffrindiau a dysgu gan y staff a’r darlithoedd – maent yn wybodus dros ben. Rhoddodd y coleg y cyfle i mi gystadlu yng nghystadleuaeth Sgiliau’r Byd y flwyddyn ddiwethaf, ac fe wnes i fwynhau’n arw. Roeddwn hefyd yn lwcus iawn o ennill Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer y Gwasanaethau Adeiladu, ac roedd hynny’n uchafbwynt arall i mi. Bellach, rwyf wedi cael fy nerbyn i astudio cwrs gradd ym Mhrifysgol Caerfaddon. Unwaith y byddaf yn cwblhau fy ngradd, byddaf yn edrych i gael ychwaneg o brofiad gwaith cyn mynd ymlaen i sefydlu fy musnes fy hun.

Aram Elbadion
Cyn-fyfyriwr Teilsio Lloriau a Waliau gyda Phlymio Lefel 3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

9.1%

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Gallwch barhau i astudio ymhellach neu gael cyflogaeth yn y sector.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

DB2,
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE