A yw’r amgylchedd a chynaliadwyedd yn newydd i chi? Neu a ydych ar ddechrau eich gyrfa ac yn chwilio am gydnabyddiaeth? Mae’r ymdrech i sicrhau cynaliadwyedd a’r dymuniad i feddu ar Sgiliau Gwyrdd wedi agor llwybrau proffesiynol newydd ar draws pob sector, ac mae cwrs Tystysgrif Sylfaen IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn ffordd berffaith o ddangos eich bod yn meddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddechrau ar eich gyrfa mewn cynaliadwyedd. Bydd y cwrs hwn yn arwain yn syth at Aelodaeth Gyswllt IEMA.
Bydd y cwrs hwn yn cynnig gwybodaeth sylfaenol am yr amgylchedd a chynaliadwyedd, sef gwybodaeth y gallwch adeiladu arni. Gan ymdrin ag amrywiaeth eang o egwyddorion amgylcheddol, cynaliadwyedd a llywodraethu, bydd y cwrs hwn yn helpu’r dysgwyr i ddeall hyd a lled yr agenda gynaliadwyedd, gan roi iddynt y sgiliau a’r dulliau rheoli y byddant eu hangen wrth weithio yn y maes.
Beth yw IEMA?
IEMA (y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol) yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y maes amgylcheddol a’r maes cynaliadwyedd. Mae IEMA yn gyfrifol am sicrhau bod pobl sy’n gweithio yn rheng flaen y meysydd hyn yn meddu ar yr wybodaeth, y cymwyseddau, y sgiliau a’r hyder priodol i fynd i’r afael â swydd broffesiynol. Hefyd, mae IEMA yn helpu ac yn cynorthwyo busnesau, llywodraethau a rheoleiddwyr i wneud y pethau iawn mewn perthynas â mentrau, heriau a chyfleoedd sy’n ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl sy’n dechrau ar yrfa’n ymwneud â’r amgylchedd neu gynaliadwyedd, neu bobl sy’n symud i yrfa i’r fath. Ni fyddwch angen unrhyw wybodaeth flaenorol cyn dilyn y cwrs hwn, oherwydd bydd y cwrs yn cynnig popeth y byddwch ei angen i ddechrau ar eich siwrnai.
Hefyd, mae’r cwrs hwn yn wych i bobl sy’n gweithio mewn proffesiynau eraill, fel marchnata neu gyllid, fel y gallant ddeall rhywfaint am gynaliadwyedd a defnyddio’r wybodaeth honno yn eu rôl.
Gan gydweddu â’r cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer Aelodaeth Gyswllt IEMA (cewch ragor o wybodaeth am y rhain yn ein Map Sgiliau Cynaliadwyedd), mae’r cwrs hwn yn golygu y gallwch wneud cais am aelodaeth blwyddyn fel Aelod Cyswllt IEMA ar ôl cwblhau a phasio’r arholiad dewis lluosog.
Beth fyddwch yn ei ddysgu?
Sut y byddwch yn dysgu?
Dyma gwrs 5 diwrnod (40 awr) a gyflwynir ar-lein.
Cyflwynir ein cyrsiau gan hyfforddwyr cymwys a aseswyd gan IEMA i sicrhau ansawdd.
Sut y byddwch yn cael eich asesu?
Ar ddiwedd y pum diwrnod, byddwch yn sefyll arholiad ar-lein dewis lluosog, ‘llyfr agored’ a fydd yn para awr.
Ar ôl pasio eich arholiad, byddwch yn cael tystysgrif ddigidol i gydnabod eich llwyddiant a chewch fanylion ynglŷn â sut i ymuno efo IEMA fe lAeolod Cyswllt, ynghyd â gwybodaeth am eich ôl-ddodiad AIEMA proffesiynol a manylion am yr holl fuddion eraill a ddaw law yn llaw ag aelodaeth o gorff proffesiynol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.