IEMA Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer Rheolwyr (PLA)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Bwriad y cwrs deuddydd hwn yw cynorthwyo rheolwyr a goruchwylwyr o unrhyw sector busnes/diwydiant i ddeall y goblygiadau strategol a gweithredol arnynt hwy, ar eu tîm ac ar eu hadran mewn perthynas â chynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd y cwrs yn eich galluogi i gyfannu at wella cynaliadwyedd eich sefydliad ac mae’n ddelfrydol ar gyfer uwchsgilio eich tîm a’r rhai sy’n goruchwylio amcanion gweithredol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae busnesau byd-enwog fel Arriva, Interserve a Hanson eisoes wedi lleihau eu heffaith amgylcheddol a gwella’u llinell sylfaen gyda Sgiliau Cynaliadwyedd ar gyfer y Gweithlu. Trefnwch le nawr er mwyn uwchsgilio eich gweithlu’n gyflym a gwella perfformiad, effeithlonrwydd ac effaith eich busnes. Cwrs pontio yw Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer Rheolwyr, a bydd yn adeiladu ar yr wybodaeth hon ac yn treiddio’n ddwfn i’r manylion, gan alluogi rheolwyr a goruchwylwyr i roi eu gwybodaeth a’u sgiliau ehangach ar waith. Bydd yn ddelfrydol i arweinwyr tîm a rheolwyr sy’n dymuno goruchwylio gwelliannau gweithredol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

15 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSIEMASM
L3

Cymhwyster

IEMA Environmental Sustainability Skills for Managers (PLA)