Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol

L5 Lefel 5
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

A ydych yn awyddus i uwchsgilio neu wella eich gwybodaeth er mwyn gallu camu ymlaen yn eich gyrfa? Gall cwrs Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol gynnig gwybodaeth fanwl am yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Yn ogystal â gwella eich gwybodaeth, bydd y cwrs hwn yn mynd gam ymhellach gan eich galluogi i weithredu’r dulliau rheolaeth amgylcheddol a’r dulliau asesu sy’n angenrheidiol i fod yn ymarferydd effeithiol. Bydd y cwrs hwn yn arwain yn syth at Aelodaeth Ymarferwr IEMA.

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

IEMA (y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol) yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y maes amgylcheddol a’r maes cynaliadwyedd. Mae IEMA yn gyfrifol am sicrhau bod pobl sy’n gweithio yn rheng flaen y meysydd hyn yn meddu ar yr wybodaeth, y cymwyseddau, y sgiliau a’r hyder priodol i fynd i’r afael â swydd broffesiynol. Hefyd, mae IEMA yn helpu ac yn cynorthwyo busnesau, llywodraethau a rheoleiddwyr i wneud y pethau iawn mewn perthynas â mentrau, heriau a chyfleoedd sy’n ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar lefel weithredol ac sy’n awyddus i ddilyn gyrfa’n ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd. Byddwch yn gweithio yn y maes rheolaeth amgylcheddol neu’r maes cynaliadwyedd a byddwch angen gwybodaeth fanwl am egwyddorion amgylcheddol a chynaliadwyedd, dulliau rheoli a sgiliau eraill er mwyn esgor ar newid cadarnhaol mewn modd effeithiol.
Gan gydweddu â’r cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer Aelodaeth Ymarferwr IEMA, bydd y cwrs hwn yn berffaith i’r rhai sy’n dymuno uwchraddio’u haelodaeth IEMA i Lefel Ymarferwr ac Ymarferwr Amgylcheddol Cofrestredig (REnvP).
Mae ffi’r cwrs yn cynnwys aelodaeth blwyddyn a fydd yn dechrau ar ôl cofrestru. Yn ystod y cwrs, byddwch yn Ymgeisydd am Aelodaeth Ymarferwr, ac ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn cael eich gwahodd i gamu ymlaen â’ch cais am Aelodaeth Ymarferwr (bydd REnvP yn costio mwy).

Beth fyddwch yn ei ddysgu?

  • Dros dri modiwl, bydd modd i’r dysgwyr sy’n dilyn y cwrs hwn wneud y canlynol:
  • Esbonio goblygiadau tueddiadau byd-eang ar gyfer yr amgylchedd, ar gyfer y gymdeithas, ar gyfer yr economi ac ar gyfer sefydliadau, ynghyd ag esbonio rôl ymarferwyr
  • Amgylcheddol/Cynaliadwyedd o ran goresgyn yr heriau hyn
  • Esbonio modelau busnes/llywodraethu cynaliadwy, eu hegwyddorion sylfaenol a’u cydberthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
  • Esbonio egwyddorion amgylcheddol a’u cydberthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
  • Esbonio polisïau a deddfwriaethau pwysig a’u goblygiadau ar gyfer sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
  • Esbonio offer, technegau, systemau ac arferion perthnasol a phwysig, y modd y gellir eu rhoi ar waith a’r modd y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy ac i wella perfformiad cynaliadwyedd
  • Esbonio rôl arloesedd ac arferion blaenllaw eraill o ran datblygu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy ac o ran esgor ar atebion cynaliadwy
  • Casglu data a’i ddadansoddi’n feirniadol, gan adrodd am wybodaeth sy’n llywio penderfyniadau
  • Nodi problemau ac asesu cyfleoedd a fydd yn esgor ar gynhyrchion a gwasanaethau arloesol a chynaliadwy
  • Pennu, gweithredu a mesur dulliau cyfathrebu effeithiol
  • Cymryd rhan mewn cyfathrebu dwy ffordd gyda rhanddeiliaid
  • Gweithredu offer, technegau, systemau ac arferion sy’n canfod cyfleoedd a risgiau
  • Cyflawni prosiectau a rhaglenni sy’n gwella perfformiad
  • Rhoi newid a thrawsnewid ar waith

Astudiaeth Achos Myfyriwr

Sut y byddwch yn dysgu?

Dyma gwrs 15 diwrnod (120 awr) a gyflwynir ar-lein. Cyflwynir ein cyrsiau gan hyfforddwyr cymwys a aseswyd gan IEMA i sicrhau ansawdd.

Sut y byddwch yn cael eich asesu?

Ceir tri aseiniad sy’n seiliedig ar wybodaeth ac un asesiad cymwyseddau a ddylai roi enghreifftiau o’r modd y rhoddwyd yr wybodaeth a ddysgwyd drwy gydol y cwrs ar waith yn ymarferol yn y gweithle. Ar ôl cwblhau eich asesiad yn llwyddiannus, cewch dystysgrif ddigidol i gydnabod eich llwyddiant a chewch fanylion ynglŷn â sut i ymuno efo IEMA fel Aelod Ymarferydd, ynghyd â gwybodaeth am eich ôl-ddodiad PIEMA proffesiynol a manylion am yr holl fuddion eraill a ddaw law yn llaw ag aelodaeth o gorff proffesiynol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

40 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSIEMACEM
L5

Cymhwyster

IEMA Certificate in Environmental Management (PLG) 10