Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol (CDP)
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn sefydliadau ar lefel weithredol ac sy'n dilyn llwybr gyrfa yn yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Byddwch yn gweithio o fewn rheolaeth amgylcheddol neu gynaliadwyedd ac angen gwybodaeth fanwl am egwyddorion amgylcheddol a chynaliadwyedd, adnoddau rheoli a sgiliau eraill i sicrhau newid cadarnhaol yn effeithiol.
Byddwch yn derbyn Aelodaeth Ymarferydd am ddim am flwyddyn, gan ddechrau pan fyddwch chi'n cofrestru ar y cwrs. Yn ystod y cwrs byddwch yn Aelod Ymarferydd sy'n Ymgeisydd a phan fyddwch yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus cewch wahoddiad i gadarnhau'ch cais (mae REnvP yn gost ychwanegol ac nid yw'n dod o dan unrhyw gyllid).
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn cynnwys tri Modiwl:
Modiwl 1: Hanfodion cynaliadwyedd, busnes a llywodraethu
• Goblygiadau tueddiadau byd-eang i'r amgylchedd, cymdeithas, yr economi ac i sefydliadau a rôl gweithiwr proffesiynol amgylcheddol / cynaliadwyedd wrth oresgyn yr heriau hyn
• Modelau ac egwyddorion busnes / llywodraethu cynaliadwy
Modiwl 2: Egwyddorion, polisi a deddfwriaeth amgylcheddol
• Egwyddorion amgylcheddol
• Polisi a deddfwriaeth bwysig
Modiwl 3: Adnoddau a sgiliau rheoli / asesu amgylcheddol
• Adnoddau, technegau, systemau ac arferion mawr i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy a gwella perfformiad cynaliadwyedd
• Rôl arloesi wrth ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau ac atebion cynaliadwy
• Casglu data, dadansoddi beirniadol ac adrodd ar wybodaeth fel sail i’r broses o wneud penderfyniadau
• Adnabod problemau ac asesu cyfleoedd ar gyfer darparu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a chynaliadwy
• Cyfathrebu effeithiol
• Adnabod ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
• Adnoddau, technegau, systemau ac arferion i adnabod cyfleoedd a risgiau
• Cyflwyno prosiectau a rhaglenni i gyflawni gwelliannau mewn perfformiad
• Gweithredu newid a thrawsnewid
Cwrs 15 diwrnod (120 awr) yw hwn mewn ystafell ddosbarth ar-lein dan arweiniad tiwtor. Mae tri aseiniad yn seiliedig ar wybodaeth ac un asesiad o gymhwysedd a ddylai roi enghreifftiau o sut mae'r wybodaeth a ddysgwyd drwy gydol y cwrs wedi'i defnyddio'n ymarferol yn y gweithle.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.