IEMA Archwilio Systemau Rheoli Amgylchedd (PLA)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni am dyddiadau
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau archwilio effeithiol er mwyn adnabod y gwelliannau system ‘ychwanegu gwerth’ sydd yn rhan allweddol o weithredu System Rheoli Amgylchedd yn llwyddiannus. I ddechrau, bydd y cwrs yn datblygu dealltwriaeth o bwrpas a strwythur ISO 14001, cyn magu sgiliau angenrheidiol er mwyn bod yn archwiliwr mewnol System Rheoli Amgylchedd llwyddiannus.

Caiff y cwrs 3 diwrnod hwn ei arwain gan diwtor mewn dosbarth ar-lein, a chaiff ei gynnal rhwng 9.00am – 4.30pm pob dydd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs 3 diwrnod hwn yn cynnwys: 

· Cyflwyniad i Systemau Rheoli Amgylchedd

· Pwrpas, strwythur ac elfennau ISO 14001

· Gweithredu ISO 14001 a defnyddio ISO 14004

· Cyflwyniad i safon archwilio 19011

· Sefydlu a rheoli rhaglen archwilio

· Gweithgareddau i’w cwblhau cyn archwilio : Amcanion, cwmpas, cynllunio a pharatoi dogfennau gwaith

· Cwblhau archwiliadau – cyfathrebu, rheoli timau archwilio, adolygu dogfennau, arsylwad ffisegol, sgiliau cwestiynu a thechneg cyfweld da

· Dadansoddi tystiolaeth, canfyddiadau, casgliadau a pharatoi adroddiad archwilio

· Cwblhau archwiliadau a chamau dilynol

· Cymhwysedd, cyfrifoldebau a datblygiad proffesiynol parhaus archwilwyr

· Pethau allweddol i’w gwneud ac i beidio â'u gwneud

Addysgu ac asesu

Cynhelir y cwrs drwy ddosbarth rhithiol ar-lein. Bydd y cwrs yn cynnwys astudiaethau achos, trafodaethau ac ymarferion datrys problemau rhyngweithiol ar gyfer yr unigolyn a grwpiau. Defnyddir y rhain drwy gydol y cwrs i atgyfnerthu dysg y dysgwyr. Caiff ei asesu drwy arholiad amlddewis 20 cwestiwn, a gwblheir ar Ddiwrnod 3.

Gofynion mynediad

Byddai gwybodaeth o systemau rheoli neu amgylcheddol yn fanteisiol, ond nid yw'n hanfodol. Bydd angen cyfrifiadur/gliniadur gyda microffon a chamera arnoch.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni am dyddiadau

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

21 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSEM0MS
L3

Cymhwyster

IEMA Internal Environmental Management System (EMS) Auditor (PLA)