Bydd y cwrs dwys undydd hwn yn cyflwyno’r dysgwyr i gynaliadwyedd amgylcheddol, gan sicrhau eu bod yn meddu ar yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r cymhelliant i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu sefydliad. Mae’r cwrs hwn yn berffaith i’r rhai sy’n gweithio mewn unrhyw rôl ar draws pob sector, er mwyn sicrhau y gellir ymwreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol ym mhob rôl o fewn y cwmni.
Mae busnesau byd-enwog fel Arriva, Interserve a Hanson eisoes wedi lleihau eu heffaith amgylcheddol a gwella’u llinell sylfaen gyda Sgiliau Cynaliadwyedd ar gyfer y Gweithlu. Trefnwch le nawr er mwyn uwchsgilio eich gweithlu’n gyflym a gwella perfformiad, effeithlonrwydd ac effaith eich busnes. Cwrs rhagarweiniol yw Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu, a bydd yn helpu eich tîm i fynd i’r afael â’r hanfodion, gan gynnig ymwybyddiaeth sylfaenol o faterion yn ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd. Bydd yn ddelfrydol i aelodau tîm sy’n gweithio ar lefel weithredol. Bydd modd ichi weld gwelliannau yn eich perfformiad ar ôl diwrnod yn unig.
Sut y byddwch yn dysgu?
Dyma gwrs undydd a gyflwynir ar-lein ac mewn ystafell ddosbarth.
Cyflwynir ein cyrsiau gan hyfforddwyr cymwys a aseswyd gan IEMA i sicrhau ansawdd.
Sut y byddwch yn cael eich asesu?
Mae dull asesu’r cwrs Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu yn cynnwys prawf ar-lein a fydd yn cynnwys 20 o gwestiynau dewis lluosog. Rhaid i’r dysgwyr gyflawni 70% i basio. Bydd y prawf yn cael ei gynnal trwy gyfrwng porth asesu IEMA a bydd yr ymgeiswyr yn cael dolen ar gyfer yr asesiad ar ôl iddynt gofrestru.
Ar ôl pasio eich arholiad, byddwch yn cael tystysgrif ddigidol i gydnabod eich llwyddiant.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.