Y drwydded Categori C+E, neu Dosbarth 1 ‘Arctig’, CE neu Wagen, yw’r categori Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) sy’n eich galluogi i yrru cerbyd dros 3500kg a threlar dros 750kg. Disodlodd y drwydded C+E y drwydded ‘Dosbarth 1’ yn 1997. Mae’r ddau enw’n cael eu defnyddio’n gyffredin bellach.
Mae’r drwydded C+E yn boblogaidd ar gyfer dosbarthu cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae ganddi botensial uwch o ran enillion oherwydd bod llai o ollyngiadau a phellteroedd hirach ar y cyfan.
Cyn dechrau’r rhaglen bydd y darparwr hyfforddi’n cyfweld ymgeiswyr a bydd y rhai yr ystyrir eu bod yn addas yn gorfod pasio archwiliad meddygol i yrwyr Cerbydau Nwyddau Mawr, a chyflawni asesiad gyrru ymarferol (wedi’u cynnwys yn y cyllid Cyfrif Dysgu Personol).
Cyfanswm yr amser y bydd arnoch angen ei ymrwymo i’r rhaglen fydd isafswm o 91 o oriau, ac mae’r manylion i’w gweld yn y tab Addysgu ac Asesu.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Mae’r cwrs yn cynnwys 4 modiwl a fydd yn eich cyflenwi â’r profiad theori ac ymarferol i’ch galluogi i eistedd y profion canlynol.
Modiwl 1 – Prawf Theori
Mae hwn yn debyg i’r prawf gyrru car ond mae’n benodol i gategori’r drwydded rydych am ei chael. Gallwch archebu’r prawf hwn cyn gynted ag y mae gennych eich trwydded dros dro. Mae dwy ran i’r prawf:
Prawf theori amlddewis
Tua 2 awr. Y marc pasio yw 85 allan o 100 cwestiwn
Prawf canfod peryglon
Yn cynnwys 19 fideo lle mae 20 o beryglon yn datblygu i’w canfod. Y marc pasio yw 67 allan o 100
Modiwl 2 – Astudiaeth Achos
Astudiaeth achos. Byddwch yn cael 7 sefyllfa y mae’n rhaid i chi eu hadolygu cyn ateb cwestiynau ar sail yr hyn rydych wedi’i ddysgu. Mae’n brawf 75 munud a rhaid i chi sgorio 40 marc allan o 50 i basio. Bydd angen eich cyfeirnod pasio arnoch i archebu eich prawf Modiwl 4.
Modiwl 3 – Prawf Gyrru Ymarferol
Gan bara tua awr a hanner, dyma eich cyfle i ddangos y sgiliau rydych wedi’u dysgu yn y categori cerbyd perthnasol. Ni chewch wneud mwy na 15 diffyg gyrrwr nac unrhyw ddiffyg difrifol neu beryglus yn ystod eich prawf.
Yn ogystal â’r rhan gyrru sylfaenol, bydd rhaid i chi ateb rhai cwestiynau am ddiogelwch y cerbyd a gwneud ymarfer bacio’n ôl. Os ydych yn defnyddio trelar, bydd rhaid i chi ddangos eich bod yn gallu bachu a dadfachu’r trelar yn gywir ac yn ddiogel hefyd.
Modiwl 4 – Arddangosiad Ymarferol
Yn y prawf olaf hwn bydd yr arholwr yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi er mwyn i chi ddangos eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol cyffredinol. Bydd y rhain yn ymwneud â gwybodaeth am y cerbyd ac am allu ar y ffyrdd yn ehangach, yn ogystal â’r arferion gorau mewn cysylltiad â diogelwch personol, mewnfudo anghyfreithlon a materion pwysig eraill.
I basio, bydd angen i chi sgorio o leiaf 15 allan o 20 ym mhob pwnc, a sgôr gyffredinol o 80%.
Mae'r hyfforddiant yn gyfuniad o hunan-astudio wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae’r hunan-astudio yn cael ei wneud ar amser sy'n gyfleus i chi.
Mae pob apwyntiad a hyfforddiant arall yn cael eu cynnal yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cyfanswm amser - 91 awr
Edrychwch isod am yr amser y bydd arnoch angen ei ymrwymo i astudio’r rhaglen hon.
Amrywiol dasgau gweinyddol drwy gydol y rhaglen e.e. llenwi ffurflen y darparwr hyfforddiant / casglu pecyn trwydded HGV dros dro o swyddfa bost leol / gwneud cais am becyn ar-lein – 2 awr.
• Mynychu Archwiliad Meddygol (a gynhelir yng Nghaerdydd) – yn cymryd 1 awr ar y mwyaf yn dibynnu ar slot amser (ac eithrio teithio).
• Hunan-astudio ar gyfer arholiadau theori (Modiwlau 1a, b a 2) – lleiafswm o 40 awr – byddem yn gobeithio archebu’r arholiadau tua 1 mis ar ôl i'r tanysgrifiad ddechrau, yn dibynnu ar argaeledd arholiadau DVSA a gallu / ymrwymiad yr ymgeisydd.
• Mynychu arholiadau theori – hyd at 5 awr (Hanner diwrnod) – heb gynnwys teithio.
• Hyfforddiant Cwrs Ymarferol ar leoliad, yn dibynnu ar eich trwydded gyfredol, yr amseroedd yw:
o Car i C+E – 7 x hanner diwrnod (sesiynau 4 awr) –
cyfanswm o 28 awr
o Trwydded C i C+E – 5 x hanner diwrnod (sesiynau
4 awr) – cyfanswm o 20 awr
o Car i C - 5 x hanner diwrnod (sesiynau 4 awr) –
cyfanswm o 20 awr
• Hyfforddiant a Phrawf Modiwl 4 – 1 x Sesiwn (4 awr) – Dysgu annibynnol ychwanegol o tua 2 i 3 awr o astudio yn dibynnu ar y gallu sydd ei angen - Modiwl 4, tua 7 awr i gyd.
• Sesiwn ailhyfforddi ymarferol – 4 awr (Hanner Diwrnod)
• Ail brawf ymarferol - 4 awr (Hanner diwrnod)
Dros 18 oed ar gyfer Trwydded HGV y Categori trwydded yrru B gyda dim mwy na 6 phwynt (mae hyn yn ymwneud â goryrru yn unig, ni ellir derbyn pwynt ar gyfer troseddau gyrru eraill).
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.