Mae’r cymhwyster hwn yn ymdrin â’r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sy’n gysylltiedig â dylunio, rhagnodi, gosod, archwilio, profi, comisiynu a
throsglwyddo systemau storio ynni trydanol (EESS). Mae’n dilyn Cod Ymarfer yr IET ar gyfer Systemau Storio Ynni Trydanol a BS 7671.
Mae’n cael ei gydnabod gan MCS. Mae MCS yn creu ac yn cynnal safonau sy’n caniatáu ar gyfer ardystio cynhyrchion, gosodwyr a gosodiadau.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Mae asesu’r cymhwyster yn cynnwys yr agweddau canlynol:
Uned Wybodaeth: arholiad ar y sgrîn - llyfr agored Uned Berfformio: Asesiad ymarferol dan amodau efelychiadol.
Rhaid i ddysgwyr lwyddo ym mhob asesiad i gyflawni'r cymhwyster. Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r ddwy uned i ennill y cymhwyster.
Mae dysgu cyn y cwrs yn hanfodol. Rhaid ichi feddu ar wybodaeth ymarferol o BS7671 A+22 a Nodyn Cyfarwyddyd 3.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer trydanwyr sydd wedi cymhwyso’n briodol yn unig. Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyddysg a rhaid iddynt fod wedi cwblhau’r fersiwn ddiweddaraf o’r rheoliadau weirio BS7671 Diwygiad 2022, a chymhwyster ymchwilio a phrofi L3 cyn gwneud cais am y cwrs hwn. Er mwyn ymgymryd â’r cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr fod yn drydanwyr ymarferol a rhaid meddu ar un o'r cymwysterau canlynol: Cymhwyster Trydanol NVQ Lefel 3 a Chymhwyster Tystysgrif AM2 (Crefft) Lefel 3 Gweithwr Electrodechnegol Profiadol a Thystysgrif AM2 (Crefft) NEU Gerdyn Aur ECS cyfredol, fel Trydanwr JIB neu Drydanwr Cymeradwy. NID yw tystysgrifau technegol unigol L2 a L3 yn seiliedig ar y coleg yn unig/Cymwysterau Galwedigaethol (VRQ) yn dderbyniol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cwrs Gosod Offer Gwefru Cerbydau Trydan.