L3 Lefel 3
Rhan Amser
5 Mehefin 2024 — 7 Mehefin 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster hwn yn ymdrin â’r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sy’n gysylltiedig â dylunio, rhagnodi, gosod, archwilio, profi, comisiynu a 
throsglwyddo systemau storio ynni trydanol (EESS). Mae’n dilyn Cod Ymarfer yr IET ar gyfer Systemau Storio Ynni Trydanol a BS 7671. 
Mae’n cael ei gydnabod gan MCS. Mae MCS yn creu ac yn cynnal safonau sy’n caniatáu ar gyfer ardystio cynhyrchion, gosodwyr a gosodiadau.        

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn cyllid PLA, ewch i daro golwg ar y cyrsiau y gallwch eu hariannu’n bersonol yma

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae asesu’r cymhwyster yn cynnwys yr agweddau canlynol:
Uned Wybodaeth: arholiad ar y sgrîn - llyfr agored Uned Berfformio: Asesiad ymarferol dan amodau efelychiadol.
Rhaid i ddysgwyr lwyddo ym mhob asesiad i gyflawni'r cymhwyster. Rhaid i ddysgwyr  gwblhau'r ddwy uned i ennill y cymhwyster.


Mae dysgu cyn y cwrs yn hanfodol. Rhaid ichi feddu ar wybodaeth ymarferol o BS7671 A+22 a Nodyn Cyfarwyddyd 3.   

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00

Gofynion mynediad

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â fersiwn ddiweddaraf rheoliadau weirio BS7671 Diwygiad 2022 cyn ymgeisio ar gyfer y cwrs hwn, a chymhwyster arolygu a phrofi L3, ac wedi’u cwblhau.

I gofrestru ar y cymhwyster hwn rhaid i ymgeiswyr fod yn drydanwyr cymwys a meddu ar un o’r cymwysterau isod sy’n seiliedig ar waith a choleg.

Cymhwyster Trydanol NVQ Lefel 3 a Thystysgrif AM2 (Crefft)

Cymhwyster Gweithiwr Electrodechnegol Profiadol Lefel 3 a Thystysgrif AM2 (Crefft).

Neu

Cerdyn Aur ECS cyfredol, fel Trydanwr JIB, neu Drydanwr Cymeradwy.

Neu

Aelod o gynllun person cymwys cyfredol (NAPIT neu NICIEC) ac Arolygu a Phrofi L3.

Nid yw tystysgrifau technegol L2 a L3 coleg yn unig/Cymwysterau sy’n Gysylltiedig â Galwedigaeth (VRQ) unigol

yn dderbyniol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

5 Mehefin 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

24 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

RTCC3P07
L3

Cymhwyster

EAL Level 3 Award in the Design Installation and Commissioning of Electrical Ene

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Cwrs Gosod Offer Gwefru Cerbydau Trydan.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE