Gosod Offer Gwefru Cerbydau Trydan (CDP)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
1 Mai 2024 — 1 Mai 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r dyfarniad hwn yn rhoi dealltwriaeth i’r dysgwr o'r ffordd y caiff Cod Ymarfer yr IET ar gyfer Gosod Offer Gwefru Cerbydau Trydan ei roi ar waith. Mae’n darparu cyfleuster i unigolion sy’n gweithio yn y sector electrodechnegol allu datblygu eu dealltwriaeth o osod cerbydau trydan (EV)              

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae asesu’r cymhwyster yn cynnwys yr agweddau canlynol:

  • Theori - Cod Ymarfer
  • EVSE ac Arolygu a Phrofi Dylunio Sylfaenol                                                   

Arholiad amlddewis ar-lein - llyfr agored a gall ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifiannell na ellir ei raglennu
Mae dysgu cyn y cwrs yn hanfodol. Rhaid i chi fod yn gyfarwydd â galw uchaf, cyfrifiadau cebl a BS7671, Canllaw ar y Safle a Nodyn Cyfarwyddyd 3.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00

Gofynion mynediad

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â fersiwn ddiweddaraf rheoliadau weirio BS7671 Diwygiad 2022 cyn ymgeisio ar gyfer y cwrs hwn, a chymhwyster arolygu a phrofi L3, ac wedi’u cwblhau.

I gofrestru ar y cymhwyster hwn rhaid i ymgeiswyr fod yn drydanwyr cymwys a meddu ar un o’r cymwysterau isod sy’n seiliedig ar waith a choleg.

Cymhwyster Trydanol NVQ Lefel 3 a Thystysgrif AM2 (Crefft)

Cymhwyster Gweithiwr Electrodechnegol Profiadol Lefel 3 a Thystysgrif AM2 (Crefft).

Neu

Cerdyn Aur ECS cyfredol, fel Trydanwr JIB, neu Drydanwr Cymeradwy.

Neu

Aelod o gynllun person cymwys cyfredol (NAPIT neu NICIEC) ac Arolygu a Phrofi L3.

Nid yw tystysgrifau technegol L2 a L3 coleg yn unig/Cymwysterau sy’n Gysylltiedig â Galwedigaeth (VRQ) unigol yn dderbyniol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Mai 2024

Dyddiad gorffen

1 Mai 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

8 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

RTCC3P03
L3

Cymhwyster

Gwobr EAL Lefel 3 yn y Gofynion ar gyfer Gosod Pwyntiau Codi Tâl Cerbydau Trydan

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Cyrsiau Systemau Ffotofoltäig Solar Domestig a Systemau Storio Ynni Trydan Lefel 3.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE